Athro Prifysgol Abertawe yn ennill Gwobr Teilyngdod Ymchwil

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Athro Gert Aarts, o'r Adran Ffiseg yn y Coleg Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn Gwobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol.

Sefydlwyd y gwobrau yn 2000 gan y Gymdeithas Frenhinol, academi wyddoniaeth genedlaethol y DU, i gydnabod rhagoriaeth ym maes ymchwil, ac mae'n darparu cyllid i geisio cadw ymchwilwyr eithriadol yn y DU, neu eu denu i'r DU.

Mae'r Athro Aarts yn ymuno â'r rhestr anrhydeddus o 27 unigolyn sydd newydd dderbyn Gwobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson. Mae enillwyr y gwobrwyon eleni'n gweithio ar ystod eang o brosiectau, gan gynnwys defnyddio data genom unigolion ar gyfer triniaeth canser, pwyntiau troi'r hinsawdd, ac archwilio'r blaned Mawrth.

Ariennir y cynllun ar y cyd gan Sefydliad Wolfson a'r Adran Busnes, Arloesi, a Sgiliau.  Mae'n ceisio rhoi cymorth ychwanegol i brifysgolion i'w galluogi i ddenu gwyddonwyr talentog o dramor, a chadw gwyddonwyr uchel eu parch, gyda thalent a photensial eithriadol, yn y DU.

Yn ei ymchwil, mae'r Athro Aarts yn archwilio ymddygiad mater sy'n rhyngweithio'n gryf dan amodau eithafol: sut mae cwarciau a glwonau, blociau adeiladu sylfaenol mater, yn ymateb i dymheredd neu bwysau uchel iawn, boed yn y bydysawd cynnar neu yng nghanol sêr niwtron? Dan amodau arferol, cyfyngir cwarciau o fewn protonau a niwtronau, sydd, gydag electronau, yn cyfansoddi elfennau'r Tabl Cyfnodol. Fodd bynnag, pan fydd y tymheredd tua 1012 K, mae protonau a niwtronau yn toddi, gan ffurfio mater mewn cyflwr newydd: yr hyn a elwir yn blasma cwarc-glwon. Yn amlwg, nid mater hawdd yw cyrraedd tymheredd mor uchel â hyn, ac mae angen cyflymydd gronynnau megis y Gwrthdarwr Hadron Mawr yn CERN i gynnal arbrofion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae CERN wedi cael llawer o ganlyniadau cyffrous gyda phlasma cwarc-glwon, trwy wrthdaro ionau plwm gydag egni digynsail.

Yn ffisegydd damcaniaethol gronynnau, mae'r Athro Aarts yn ymchwilio i nodweddion y cyflwr mater newydd hwn o ddiogelwch ei swyddfa yn Nhŵr Vivian ar y campws, trwy gyfuno gwaith mathemategol ar ei ddesg â chanlyniadau efelychiadau rhifol ar raddfa fawr ar Gyfrifiaduron Perfformiad Uchel.

Dywedodd yr Athro Aarts: "Mae gan Brifysgol Abertawe un o'r grwpiau Theori Gronynnau mwyaf yn y DU, a'r grŵp Cyfrifiaduron Perfformiad Uchel blaenllaw am y fath ymchwiliadau. Gyda fy nghydweithwyr yn Abertawe, a chydweithredwyr yn yr Almaen, Iwerddon, yr Eidal, Corea ac mewn llefydd eraill, rydym ni wedi gallu cyfrannu i ddealltwriaeth ddamcaniaethol y plasma cwarc-glwon, a dyfeisio dulliau rhifol newydd i ystyried agweddau nas archwiliwyd yn ddigonol."

Gyrrir gwaith yr Athro Aarts yn bennaf gan yr ymdrech i ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o Natur ar y raddfa leiaf. Ychwanegodd:  "Er bod yr agweddau Cyfrifiadura Perfformiad Uchel o fy ngwaith yn faes hyfforddi rhagorol i fyfyrwyr PhD, mae'n galonogol bod yr ymchwil damcaniaethol hwn wedi'i gydnabod gan y Wobr Wolfson, heb bresenoldeb gwaith amlddisgyblaethol a heb angen dangos effaith sydyn."

Gert Aarts Award pic

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Athro Aarts wedi cyd-drefnu nifer o gyfarfodydd rhyngwladol i ddod â gwyddonwyr yn y maes at ei gilydd, yn ECT* (Trento, yr Eidal, 2009), yn y Sefydliad Theori Niwclear (Seattle, UDA, 2012), ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Abertawe. Trwy hap a damwain, cynhaliwyd cynhadledd Strong and Electroweak Matter (SEWM2012), gyda thros 130 o gynrychiolwyr o ledled y byd, o Siapan i Frasil, wythnos yn union ar ôl darganfod y boson Higgs yn Cern; a'r Athro Peter Higgs draddododd y ddarlith allweddol yn y cyfarfod.

 

Y flwyddyn nesaf, bydd yn trefnu gweithdy rhyngwladol yn GSI (Darmstadt, Germany, 2014). Meddai'r Athro Aarts: "Mae cyfathrebu a chyfnewid syniadau'n hanfodol i gynnydd gwyddonol. Mae'r posibiliad o drefnu cyfarfod sy'n dod ag arbenigwyr blaenllaw'r byd at ei gilydd bob amser yn gyffrous, gan y gall arwain at y syniad newydd yr ydym i gyd wedi bod yn aros amdano."

Yn ystod y pum mlynedd nesaf, mae'r Athro Aarts yn gobeithio gwneud cynnydd pellach, yn arbennig o ran disgrifio mater sy'n rhyngweithio'n gryf pan fydd nifer y cwarciau yn uwch na nifer y gwrth-gwarciau, broblem sydd wedi drysu ffisegwyr ers llunio theori'r rhyngweithio cryf.

Llun: O'r chwith i'r dde .  Yr Athro Aarts (Prifysgol Abertawe), Yr Athro Peter Higgs (Prifysgol Caeredin) a'r Athro Simon Hands (Prifysgol Abertawe) yn ystod y Gynhadledd 'Strong and Electroweak' yn Abertawe, Gorffennaf 2012.