Athro Abertawe'n archwilio dirgelwch natur mewn cynhadledd yn UDA

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Athro o Abertawe yn trafod ymchwil a all helpu esbonio un o ddirgelion natur pan fydd yn ymddangos, yn siaradwr gwadd, yng nghyfarfod blynyddol fawreddog y Gymdeithas Americanaidd er Hyrwyddo Gwyddoniaeth, yn UDA.

Bydd yr Athro Mike Charlton, Athro Ffiseg Arbrofol ym Mhrifysgol Abertawe, yn traddodi darlith, sef Resonant Quantum Transitions in Trapped Antihydrogen Atoms, yn y gynhadledd ddydd Sul 17 Chwefror yn Boston.

Yn y ddarlith, bydd yr Athro Charlton yn disgrifio ymchwil i wrth-hydrogen - sef yr atom gwrthfater sy'n cyfateb i hydrogen, yr atom mwyaf cyffredin yn y bydysawd.

Dywedodd yr Athro Charlton: "Adeg y Glec Fawr, byddai meintiau cyfartal o fater a gwrthfater wedi bodoli. Fodd bynnag, ymddengys fod gan Natur dueddiad bach i ffafrio mater, sy'n caniatáu i'n bydysawd a phopeth sydd ynddo fodoli."

Mae darganfyddiadau'r prosiect cydweithrediadol ALPHA yn CERN (Sefydliad Ymchwil Niwclear Ewrop), wedi'i gwneud yn bosibl i greu a dal yr atomau hyn am gyfnod byr iawn. Mae arbrofion ALPHA yn ceisio cymharu hydrogen a gwrth-hydrogen, er mwyn astudio cymesureddau sylfaenol rhwng mater a gwrthfater.

Dywedodd yr Athro Charlton: "Mae'r ymchwil hwn yn bwysig, oherwydd bod y Bydysawd wedi dangos ei fod yn ffafrio mater. Mae'r gwaith yn cymharu atomau hydrogen a gwrth-hydrogen fel modd o archwilio paham digwyddodd hynny.  Mae'n bosibl y bydd hyn, yn y dyfodol, yn helpu i esbonio absenoldeb gwrthfater ar raddfa fawr, a datrys dirgelwch arall am darddiad y Bydysawd."