'App' ffôn newydd i helpu busnesau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Lansir 'app' ffôn newydd, a ddatblygwyd gan y Swyddfa Eiddo Deallusol gyda chymorth Eiddo Deallusol Cymru, yr wythnos hon. Bydd yr app yn helpu Busnesau Bach a Chanolig i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag Eiddo Deallusol.

Mae Eiddo Deallusol Cymru, menter cymorth busnes a weithredir gan Brifysgol Abertawe, a'r Swyddfa Eiddo Deallusol, wedi datblygu'r app yn benodol at ddefnydd Busnesau Bach a Chanolig.   Caiff defnyddwyr yr app ddarganfod beth yw eu Heiddo Deallusol, a sut y gellid ei ddefnyddio i ehangu eu busnes.  Bydd hefyd yn rhoi mynediad at adnoddau Eiddo Deallusol y gellir eu lawrlwytho a'u defnyddio heb fod ar-lein.

Mae'r adnoddau'n cynnwys mynediad at ganllawiau rhad ac am ddim ar ddeall arloesi agored ac asedau deallusol, sut i gyfyngu ar fynediad cystadleuwyr trwy ddefnyddio Eiddo Deallusol, a sut i ychwanegu gwerth trwy asedau deallusol.

Bydd yr app yn galluogi'r defnyddiwr i gael mynediad at gyflwyniadau rhad ac am ddim ar reoli asedau deallusol hefyd. Bydd y rhain o gymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig mewn biodechnoleg, cyfrifiadureg, a pheirianneg.

Bydd gan ddefnyddwyr yr app fynediad at newyddion a thrydariadau diweddaraf y Swyddfa Eiddo Deallusol hefyd, ac mae fersiwn ar gael i bobl gyda golwg cyfyngedig hefyd.

Dywedodd Andrew Beale, Cyfarwyddwr Eiddo Deallusol Cymru: "Mae Eiddo Deallusol Cymru yn hynod o falch o weithio gyda'r Swyddfa Eiddo Deallusol i ddatblygu'r adnodd newydd arloesol hwn i helpu Busnesau Bach a Chanolig. Holl bwyslais ein gwaith yn fan hyn ydy helpu Busnesau Bach a Chanolig i gael mynediad rhwydd at wybodaeth am ddim, er mwyn sicrhau eu bod yn deall ac yn gwarchod eu Heiddo Deallusol, ac yn integreiddio eu strategaeth Eiddo Deallusol yn eu cynlluniau busnes er mwyn cynnal a thyfu eu busnesau trwy ddefnyddio'u hasedau Eiddo Deallusol yn fasnachol."

Am ragor o wybodaeth am yr app, ewch i:

https://play.google.com/store/apps/details?id=uk.gov.ipo.iposb&feature=search_result#?t=W10.

I gysylltu ag Eiddo Deallusol Cymru, anfonwch neges at: a.j.beale@abertawe.ac.uk