Anrhydedd Coleg Brenhinol y Milfeddygon i Athro o Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr Athro Martin Sheldon o'r Ganolfan Imiwnobioleg Atgenhedlol (CRIB) yn Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe yn derbyn Cymrodoriaeth gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon (FRCVS) ddydd Gwener, Gorffennaf 5.

Prof Martin SheldonCredir mai'r Athro Sheldon yw'r academydd cyntaf o Brifysgol Abertawe i dderbyn gwobr FRCVS – anrhydedd uchaf y Coleg – a ddyfernir iddo am ei gyfraniad clodwiw i ymchwil ar fecanwaith haint ac imiwnedd yn y llwybr cenhedlu benywaidd.

Enillodd yr Athro Sheldon ei PhD yn 2002 ym Mhrifysgol Lerpwl a bu'n gweithio i Goleg Brenhinol y Milfeddygon, cyn symud i Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, yn y Coleg Meddygaeth yn ystod Cymrodoriaeth Datblygu Ymchwil y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wartheg godro lle y mae clefyd crothol ar ôl esgor (y broses eni) yn effeithio ar oddeutu 40 y cant o anifeiliaid bob blwyddyn, gan niweidio iechyd yr anifeiliaid ac achosi anffrwythlondeb.

Mae'r gwaith hwn wedi'i ariannu gan BBSRC fel rhan o brosiect €3.2 miliwn gan y Comisiwn Ewropeaidd, wedi'i arwain gan yr Athro Sheldon, i drosi canfyddiadau gwyddonol sylfaenol yn strategaethau newydd a fydd yn lleihau effaith clefyd crothol.

Mae tîm yr Athro Sheldon wedi canfod bod gan gelloedd y groth a'r ofari rolau o ran imiwnedd cynhenid i amddiffyn yn erbyn heintiau bacteriol.

Mae canfyddiadau'r ymchwil hefyd yn bwysig o safbwynt deall clefyd mewn menywod gan fod mecanwaith sylfaenol rhyngweithiadau organebau lletyol a phathogenau yn debyg rhwng anifeiliaid a bodau dynol - y cysyniad Un Fioleg Un Iechyd.

Dyfarnwyd grant prosiect pellach i'r Athro Sheldon yn ddiweddar i astudio'r mecanwaith sy'n tanseilio rhyngweithiadau organebau lletyol a phathogenau rhwng celloedd mamolaidd a gwenwyn bacteriol.

Meddai'r Athro Sheldon fydd yn derbyn ei anrhydedd ar ddiwrnod blynyddol RCVS (ddydd Gwener, Gorffennaf 5) a gynhelir yng Ngholeg Brenhinol y Ffisegwyr: "Rydw i wrth fy modd i dderbyn yr FRCVS, a hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau fy labordy a chydweithwyr rhyngwladol am eu cymorth parhaus."

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae'r Athro Martin Sheldon yn gydweithiwr uchel ei gamp sy'n arwain ymchwil pwysig ac arwyddocaol yn Abertawe. Mae'r Brifysgol yn falch o'i weld yn derbyn y clod haeddiannol hwn."

Gan estyn ei longyfarchiadau yntau, meddai'r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe: Mae'r Athro Sheldon yn llawn haeddu ei Gymrodoriaeth ac mae hyn yn enghraifft bellach o sut y mae Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe yn dod yn fwy adnabyddus fel canolfan ragoriaeth mewn ymchwil ym maes y gwyddorau bywyd ac iechyd."