Aeth Rhodri Morgan i Decsas i lansio cynllun ysgoloriaeth i anrhydeddu dyn sy'n enwog ym maes archwilio'r gofod, ac sydd â'i wreiddiau yng Nghymru.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru, sydd bellach yn Ganghellor Prifysgol Abertawe, wedi lansio Cronfa George Abbey, a fydd yn rhoi ysgoloriaethau i fyfyrwyr o Abertawe a'i sefydliadau partner yn Nhecsas i hwyluso rhaglenni cyfnewid myfyrwyr, gan dalu am gostau teithio a llety.

Bydd y cynllun yn gronfa waddol, wedi'i dylunio i gynorthwyo myfyrwyr sy'n astudio pynciau sy'n gysylltiedig â gwaith George Abbey.  Bydd y rhain yn cynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, a'r celfyddydau, yn arbennig Astudiaethau Celtaidd.

Mae George Abbey, a fu gynt yn Gyfarwyddwr Canolfan Gofod Johnson NASA, bellach yn Gymrawd Hŷn mewn Polisi Gofod ym Mhrifysgol Rice, yn Houston, Tecsas. Fe'i ganwyd yn Seattle, Washington, ond roedd ei fam yn Gymraes Gymraeg o Lacharn, ac mae Mr Abbey wastad wedi bod â diddordeb mawr yng Nghymru a'i etifeddiaeth Gymreig. Mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf â Lacharn.  Roedd cefnder iddo, Dick Lewis, yn ddyn y llaeth yn yr ardal ac yn gyfaill i'r bardd, Dylan Thomas, pan oedd yntau'n byw yn y dref.

Mae Mr Abbey yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe, lle mae ei fab yn Ymgynghorydd Cydweithredu Strategol Rhyngwladol.

Lansiwyd y cynllun ysgoloriaeth mewn cinio yng nghartref Andrew Millar, Prif Gonswl Ei Mawrhydi ar gyfer Tecsas, yn Houston.

Rhodri and George Abbey

Dywedodd Rhodri Morgan: "Mae cysylltiadau George Abbey â Chymru, a'i gariad parhaol at Lacharn, man geni ei fam, yn hysbys iawn. Trefnodd i waith Dylan Thomas gael ei gludo i'r gofod, ac roedd yn arfer gofyn i ofodwyr dynnu lluniau o Gymru o'r gofod! Bydd y cynllun hwn yn ein galluogi i anrhydeddu ei waith a'i fywyd ym Mhrifysgol Abertawe, ac rwy'n hynod o falch o'i lansio yn Houston, cartref Canolfan Gofod NASA."

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Ein nod yn Abertawe yw rhoi profiad neilltuol i'n myfyrwyr. Rydym hefyd yn cydnabod bod gwella cyflogadwyedd ein myfyrwyr yn bwysicach nag erioed, ac un ffordd o gyflawni hynny yw trwy ddarparu cyfleoedd i'n myfyrwyr astudio neu weithio tramor. Bydd y cynllun newydd yn rhoi'r fath gyfle i fwy o fyfyrwyr, ac mae'n rhan bwysig arall o'n cydweithrediad â phrifysgolion gorau Tecsas."

 

  • Roedd George Abbey'n gwasanaethu yn Llu Awyr UDA cyn iddo ymuno â NASA ym 1964, lle cafodd weithio ar raglen Apollo. Ym 1976 daeth yn gyfarwyddwr gweithredoedd hedfan, ac roedd ei gyfrifoldebau'n cynnwys rheoli'r criw a'r cyrchoedd.
  • Yn y 1980au, daeth yn gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Gweithredoedd Criw Hedfan, ac efe ddewisodd y criw ar gyfer cyrchoedd cynnar y wennol ofod.  Efe hefyd anfonodd y menywod cyntaf o America i'r gofod. Ym 1996, penodwyd Abbey'n Gyfarwyddwr Canolfan Gofod Johnson, lle bu'n rhan o'r rhaglen ar y cyd rhwng y wennol ofod a'r orsaf ofod, MIR.  Roedd hefyd yn ganolog i ddatblygiad yr orsaf ofod ryngwladol.
  • Ar ôl iddo gael ei benodi'n gyfarwyddwr canolfan ymchwil NASA, Canolfan Gofod Johnson, yn Houston, Tecsas, trefnodd i lun Dylan Thomas o amgueddfa yn Lacharn fynd i'r gofod ar y wennol ofod, Columbia, ym 1998 - pymtheng mlynedd yn ôl, yn union.
  • Wedyn, dychwelodd e'r llun i'r dref i gael ei ddangos yn y Boathouse - hen gartref Dylan Thomas, sydd bellach yn amgueddfa - gyda chyflwyniad yn nodi manylion ei daith trwy'r gofod.