Abertawe yn ennill cyllid am Ganolfan newydd ar gyfer partneriaeth Gweithgynhyrchu Arloesol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi'i chydnabod fel un o ganolfannau rhagoriaeth academaidd blaenllaw'r DU gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol.

Mae'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer pedair Canolfan Gweithgynhyrchu Arloesol newydd a fydd yn datblygu ffyrdd newydd o weithgynhyrchu ym maes electroneg, defnyddio laserau mewn prosesau cynhyrchu, dyfeisiau meddygol a chynhyrchu bwyd.  

Bydd Canolfan Argraffu a Chotio a Hylif Cymhleth Prifysgol Abertawe yn ffurfio rhan o'r Ganolfan Gweithgynhyrchu Arloesol newydd mewn Electroneg Ardal Fawr (LAE). Bydd y ganolfan newydd hon, a fydd yn dechrau gwaith yn hwyrach yn y flwyddyn, yn dod ag academyddion blaenllaw ynghyd o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Caergrawnt, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Manceinion.

Mae Prifysgol Abertawe'n falch ei bod wedi cael y cyfle i weithio mewn partneriaeth â thri o Brifysgolion blaenllaw'r DU i greu canolfan genedlaethol ag arbenigedd o safon fyd-eang mewn dylunio, datblygu, gwneuthuriad, a chymeriadaeth ar gyfer ystod eang o ddyfeisiau, defnyddiau a phrosesau.

Mae Electroneg Ardal Fawr yn gangen o electroneg sy'n mabwysiadu dull gwahanol a mwy o lawer i'r gwaith o gynhyrchu byrddau cylchred cyffredin. Mae'r dull newydd yn golygu y gall dyfeisiau a chylchredau electroneg gael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio prosesau tymheredd isel, sy'n caniatáu defnyddio systemau electronig cynhyrchu plastig a phapur sy'n hyblyg, yn denau ac yn ysgafn.

Mae Prifysgol Abertawe eisoes wedi'i chydnabod gan yr UE fel enghraifft o sut y gellir defnyddio cronfeydd strwythurol mewn cyfuniad ag ariannu gan gynghorau ymchwil. Bydd yn derbyn ei chyfran (oddeutu £1.4m) o'r £5.6m a ddyfarnir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol i'r Ganolfan Electroneg Ardal Fawr.     

Meddai Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth:

"Mae cynyddu cyfran ein prifysgolion o gyllid ymchwil wrth wraidd ein strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru. Rydw i wrth fy modd gyda'r cyhoeddiad hwn sy'n cydnabod cyfraniad Prifysgol Abertawe fel canolfan ragoriaeth flaenllaw. Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y cysylltiadau hanfodol rhwng y gronfa sgiliau ymchwil a gwyddoniaeth yng Nghymru, a'r prosesau arloesi, datblygu a masnacheiddio sy'n trawsffurfio allbwn ymchwil yn fantais economaidd i Gymru."

EPSRC award

Meddai'r Athro Rhodri Williams, yr Athro Tim Claypole a'r Athro David Gethin, arweinwyr ymchwil yng Nghanolfan Argraffu a Chotio a Hylif Cymhleth Abertawe:

"Mae arbenigedd blaenllaw rhyngwladol Prifysgol Abertawe mewn hylifau cymhleth ac argraffu a chotio yn rhan hanfodol o'r Ganolfan newydd hon. Bydd sefydlu'r Ganolfan hon yn symbylu twf Cymru fel rhanbarth o ragoriaeth ar gyfer electroneg argraffadwy a defnyddiau swyddogaethol ond bydd ganddo hefyd effaith fyd-eang."

Llun: (O'r dde i'r chwith) yr Athro Rhodri Williams, yr Athro Tim Claypole, yr Athro David Gethin.