Yr Higgs Boson, y Glec Fawr, Y Bydysawd a Phopeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Sut oedd y Bydysawd yn edrych yn syth ar ôl y Glec Fawr? Sut mae cwarciau a gluons yn ymddwyn y tu mewn i sêr niwtron? O ble mae más yn dod? Beth fydd yn cael ei ddatgelu nesaf am yr Higgs boson a’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr (LHC)?

Bydd mwy na 100 o wyddonwyr o ledled y byd yn rhoi sylw i’r cwestiynau hyn a chwestiynau eraill yr wythnos nesaf pan fyddant yn dod at ei gilydd ar gyfer cynhadledd pedwar diwrnod ym Mhrifysgol Abertawe ar ''Strong and Electroweak Matter" rhwng y 10fed – 13eg Gorffennaf.

Un o’r uchafbwyntiau fydd y prif ddarlith gan yr Athro Peter Higgs o Brifysgol Caeredin, yr enwyd y ronyn anghaffaeladwy enwog Higgs boson ar ei ôl. 

Bydd ei ymddangosiad yn Abertawe yn dilyn cyhoeddiadau a ddisgwylir yfory (4 Gorffennaf) gan wyddonwyr yn yr LHC yn Sefydliad Ewrop ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) yn Genefa, am y chwiliad am yr Higgs boson.

Meddai’r Athro Gert Aarts, sy’n cadeirio’r pwyllgor trefnu: "Rydym yn falch iawn y bydd yr Athro Higgs yn dod i Abertawe am y ddarlith hon, a fydd yn dilyn yn syth ar ôl y canlyniadau diweddaraf gan yr LCH yn CERN.

"Mae aelodau’r Grwp Theori Ronynnau o’r Adran Ffiseg yng Ngholeg Gwyddoniaeth y Brifysgol yn gweithio ar amrywiaeth eang o broblemau mewn ffiseg gronynnau elfennol; mae trefnu Cynhadledd sy’n denu ymchwilwyr o Ewrop, Gogledd a De America, India, Tsiena a Japan yn ffordd wych o ddathlu’r ymchwil o safon fyd-eang a wneir yn Abertawe.”