Yr Athro John Harries: “Gwyddoniaeth yng Nghymru – diweddariad”

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r digwyddiad hwn wedi ei drefnu gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain (Cangen De Cymru) mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Materion Cymreig (Cangen Bae Abertawe) ac yn cael ei gynnal gan Goleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe.

Prof John Harries Siaradwr: Yr Athro John Harries, Prif Gynghorydd Gwyddonol i Lywodraeth Cymru

Teitl y Ddarlith: “Gwyddoniaeth yng Nghymru – diweddariad”


Dyddiad: Dydd Mercher 4eg Ebrill 2012

Amser: 7pm

Lleoliad: Darlithfa Grove, Adeilad Grove, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mae mynediad am ddim a chroeso i bawb. Darperir lluniaeth.


Ar 11eg Tachwedd 2010 yn Abertawe a’r 2il Chwefror 2011 yng Nghaerdydd, rhannodd yr Athro Harries ei argraffiadau cynnar wedi iddo dreulio cyfnod byr yn ei swydd newydd yng Nghymru.

Ar yr achlysur hwn bydd yn disgrifio datblygiadau dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi hysbysu fformiwleiddio polisi gwyddoniaeth newydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyntaf yng nghanol mis Mawrth.

Mae’r Athro John Harries yn Athro mewn Arsylwi’r Ddaear yn Labordy Blackett yng Ngholeg Imperial, Llundain. Yn gyn-lywydd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, efe oedd Cyfarwyddwr cyntaf Adran Gwyddor y Gofod Labordy Rutherford-Appleton.

Mae’n Brif Archwilydd ar offeryn monitro hinsawdd sydd ar waith ar hyn o bryd fel rhan o’r Gyfres Lloerennau Meteostat Ewropeaidd mewn orbit daearsefydlog.

Ym mis Gorffennaf 2011 fe’i gwobrwywyd â Medal Gwasanaeth Cyhoeddus Nodedig NASA.