Ymchwil yn datgelu bod babanod sy’n bwydo ar y fron yn llai tebygol o orfwyta yn ystod plentyndod

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil Prifysgol Abertawe wedi datgelu bod babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn llai tebygol o orfwyta a dod yn ordrwm neu’n ordew yn ystod plentyndod.

Baby feeding research Archwiliodd astudiaeth ymchwil ddiweddar gan yr Adran Astudiaethau Iechyd a Pholisi Cyhoeddus a’r Adran Seicoleg a arweiniwyd gan Dr Amy Brown, y rôl y gallai bwydo ar y fron ei chwarae mewn lleihau’r perygl o fod yn ordrwm ac yn ordew yn ystod plentyndod a gofynnodd pam y gallai bwydo ar y fron ddiogelu rhag y broblem iechyd bwysig hon.

Mae’r canfyddiadau presennol yn rhan o astudiaeth yn archwilio pwysigrwydd ymddygiadau bwydo megis bwydo ar y fron ac amseru cyflwyno bwyd solet i blant a’r canlyniadau iechyd tymor hwy i blant.

Cymharodd yr ymchwilwyr ‘ymatebolrwydd i syrffed’, sef y gallu i reoli chwant bwyd a dim ond bwyta cymaint ag sydd ei angen, ymhlith plant bach rhwng 18 – 24 mis oed yn dibynnu ar a chawsant eu bwydo ar y fron neu â fformiwla.  Mae’r gallu i beidio â gorfwyta mewn ymateb i fwydydd blasus neu ddognau mawr yn gysylltiedig â bod yn bwysau iachach i blant ac oedolion fel ei gilydd.   

Dangosodd y canlyniadau i fabanod a gafodd eu bwydo ar y fron gael eu disgrifio fel bod â gallu gwell i reoli eu chwant bwyd a’u bod yn llai tebygol o fod mor ordrwm â phlant bach a gafodd eu bwydo â fformiwla. Os cawsant eu bwydo ar y fron am gyfnod hwy, roeddent yn llai tebygol o orfwyta sy’n debygol o hyrwyddo pwysau iachach. Nid oedd oedran, addysg na swydd y fam yn cynnig esboniad am y berthynas hon.  

Mae ymchwilwyr yn pwyntio at nifer o resymau am pam y gallai hyn ddigwydd.

Meddai Dr Brown: “Gall bwydo ar y fron a bwydo â fformiwla fod yn brofiadau gwahanol iawn ar gyfer babi. Yn amlach na pheidio y babi sy’n penderfynu  swm y llaeth a yfir yn ystod bwydo ar y fron ac yn wahanol i hyn mae gan y rhai sy’n rhoi gofal fwy o gyfle i reoli’r swm a yfir wrth fwydo â fformiwla.

“Mae babanod a fwydir â fformiwla yn fwy tebygol o gael symiau penodol o laeth ar amseroedd penodol yn ystod y dydd ond mae babanod a fwydir ar y fron yn aml yn yfed llai ond yn fwy aml, heb gadw at batrwm penodol.

“Hefyd pan fydd babi’n cael ei fwydo â fformiwla, mae modd gweld faint o laeth sy’n cael ei yfed mewn potel a allai annog y sawl sy’n bwydo’r babi i geisio perswadio’r babi i orffen yr holl laeth yn y botel hyd yn oed os nad ydynt eisiau rhagor. I’r gwrthwyneb, mae’n anodd gwybod faint mae babi sy’n bwydo ar y fron wedi ei yfed neu i’w ddarbwyllo i yfed mwy nag y mae ei eisiau.”

Mae ymchwil wedi dangos hyd yn oed erbyn ychydig o ddyddiau ar ôl cael eu geni, mae babanod sy’n cael eu bwydo â fformiwla yn cael mwy o galorïau na babanod sy’n bwydo ar y fron sydd felly’n awgrymu y gallant fod yn yfed mwy nag sydd ei angen.

Meddai Dr Brown: “Gallai’r profiadau cynnar hyn olygu bod babanod sy’n bwydo ar y fron yn cael mwy o gyfle i ddysgu yfed cymaint o laeth ag sydd ei angen arnynt yn unig gan fod ganddynt fwy o reolaeth ar faint o laeth y maent yn ei yfed. Felly gallai bwydo ar y fron annog babanod i ddysgu bod yn ‘ymatebol i syrffed’ sy’n lleihau eu risg o ddod yn ordew fel plant ac oedolion.”