Y Fi a Monica Lewinsky

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y ddarlith nesaf yn y gyfres o ddarlithoedd cymunedol am ddim a drefnir gan Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) Prifysgol Abertawe yn cael ei chynnal fis nesaf.

Siaradwr: Yr Athro M W Thomas

Teitl y Ddarlith: Y Fi a Monica Lewinsky

Dyddiad: Dydd Iau Ebrill 19 2012

Amser: 3.45 - 5.30yp

Lleoliad: Yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN

Mynediad: Mae mynediad am ddim a chroeso i bawb

Gwybodaeth am y siaradwr:

Y mae M W Thomas yn gyn-Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru, Prifysgol Abertawe. Mae’n ddeilydd Cadair Emyr Humphreys yn Llên Saesneg Cymru ac yn arbenigo ym marddoniaeth America ac yn nwy lenyddiaeth Cymru.

Bu’r Athro Thomas yn Gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru am bum mlynedd ac ef bellach yw Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru. Ym Mehefin 2007 fe'i gwnaethpwyd yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) am ei wasanaeth i ddwy lenyddiaeth Cymru

Crynodeb o’r ddarlith: Hanes yr Athro M W Thomas yn Unol Daleithiau America a sut y daeth o hyd i’w enw ar dudalen flaen y San Francisco Chronicle

Cyswllt: I archebu lle neu am ragor o wybodaeth ffoniwch 01792 602211 neu e-bostiwch: adult.education@abertawe.ac.uk (N.B. ni fydd lleoliad y ddarlith yn cymryd archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.

Mae’r eitem newyddion hon wedi’i chyhoeddi gan Manon Llwyd, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 513454, neu e-bost: m.llwyd@abertawe.ac.uk