Uwchraddio campws

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ystod misoedd yr haf sydd i ddod, bydd cyfleusterau a gwasanaethau newydd a gwell yn cael eu datblygu yng nghanol Campws Singleton.

Yn rhan o brosiect gwerth £1.25 miliwn, a arweinir gan Ystadau a Rheoli Cyfleusterau, bydd gwaith sylweddol yn cael ei wneud ar lawr gwaelod Ty Fulton a fydd yn cynnwys datblygu’r le a darparu tri siop newydd a chartref gwell i Ganolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr.

Fulton House 1

Yn ogystal â buddsoddi mewn gwasanaethau newydd, bydd y prosiect hefyd yn helpu i wella cyflwr esthetaidd a mecanyddol yr adeilad, a agorwyd gyntaf yn 1965.

Wrth galon y cynllun y mae ‘marchnad fini’ 200m2 wedi’i gwella’n sylweddol a fydd yn cynnig amrywiaeth mawr o fwydydd cyfleus a ffres, gan gynnwys ffrwythau, llysiau, bara, cig, a detholiad o fwydydd rhyngwladol i ail-greu llwyddiant Niche.  Bydd hyn yn darparu adnodd gwych i’r rhai sy’n byw ar ac oddi ar y campws.

At hynny, bydd darpariaeth ar wahân ar gyfer siop nwyddau swyddogol y Brifysgol/Undeb y Myfyrwyr a chaffi ‘bachu a mynd’ newydd sbon i ategu’r hyn a gynigir ar y campws ar hyn o bryd.  

Bydd y datblygiadau newydd yn help mawr wrth wella profiad y myfyrwyr, y staff ac ymwelwyr drwy gynnig mwy o ddewis, gwerth gwell a hygyrchedd gwell.

Fulton House 2

Bydd Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr (a leolir ar hyn o bryd i ddwyrain Ty Fulton) yn symud i swyddfeydd wedi’u hailwampio yng ngorllewin yr adeilad, lle’r oedd Canolfan Iechyd y Brifysgol yn arfer bod. Yn ogystal â gwella gwelededd a hygyrchedd y gwasanaeth yn sylweddol, bydd y lle newydd yn cynnig amgylchedd gwaith gwell i staff a myfyrwyr, gan gynnig y potensial i ehangu ar y gwasanaethau sydd ar gael i’r myfyrwyr. 

 

Mae Charlotte Britton, Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr yn croesawu’r datblygiad newydd.

“Rydw i wrth fy modd y bydd y Ganolfan Cyngor a Chymorth yn symud i safle mwy a gwell dros yr haf. Llynedd gwnaethon nhw ddelio â mwy na 2000 o faterion gan fyfyrwyr a llwyddon nhw i roi dros £13,000 nôl i mewn i bocedi myfyrwyr. Rydym yn gyffrous iawn y bydd y symud hwn yn caniatáu i ni newid a thyfu a gwneud y gwasanaeth hyd yn oed yn well i fyfyrwyr y flwyddyn nesaf.”

Bydd y gwaith yn dechrau’n hwyr ym mis Mehefin a rhagwelir y caiff ei gwblhau ym mis Medi. Bydd mynediad i ben gorllewinol y llawr gwaelod yn gyfyngedig tra bod y gwaith adeiladu’n cael ei wneud ond bydd y prif wasanaethau i gyd yn parhau i fod ar gael i ddefnyddwyr y campws