Uchafbwyntiau GwyddonLe 2012

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe unwaith eto eleni yn llwyfannu pabell GwyddonLe ar faes Eisteddfod yr Urdd rhwng 4-9 Mehefin 2012.

Iolo Williams, y naturiaethwr fydd yn agor y babell yn swyddogol fore Llun 4 Mehefin, am 11:00 y bore.

Nia Parry

I ddilyn, bydd Iolo Williams yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ag ateb gyda’r cyflwynydd teledu a chyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe, Nia Parry am 11.15yb.

Bydd y cyn bêl droediwr proffesiynol, Malcolm Allen yno ddydd Iau, 7 Mehefin am 12.30 y prynhawn yn arbennig i wobrwyo’r gystadleuaeth fathemateg genedlaethol.

Bydd arddangosfa o’r cerbyd enwog Bloodhound i’w weld yn GwyddonLe, sef y car sy’n gobeithio torri’r record byd ar gyfer cyflymder tir a chyrraedd 1,000 milltir yr awr yn 2013.

Ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe sydd wedi cyfrannu at ddyluniad aerodynameg Bloodhound a bydd fideo yn olrhain hanes datblygu’r cerbyd i’w weld gydol yr wythnos.

Un o uchafbwyntiau eraill yr wythnos fydd dangosiad cyntaf y ffilm Gymraeg ‘GLIMPSE: Yr iâ sy’n diflannu o’r Ynys Las’ brynhawn Gwener, 8 Mehefin am 3 o’r gloch. Mae'r ffilm yn dilyn rhewlifegwyr o Brifysgol Abertawe ar eu taith wyddonol i ddarganfod pam fod iâ yr Ynys Las yn newid. 

Bydd GwyddonLe, sydd ar agor bob dydd rhwng 10yb tan 4yp, yn addo cynnig profiad gwyddonol cyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg i ymwelwyr trwy gydol wythnos Eisteddfod yr Urdd.