Trawsnewid alawon Nadolig trwy dechnoleg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r amser wedi dod unwaith eto pan ddaw teuluoedd, busnesau, ysgolion a cholegau ynghyd i gael eu hysbrydoli ar gyfer y Nadolig.

Bydd y ddarlith Nadolig flynyddol rhad ac am ddim gan ITWales a Changen De Cymru o Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain - y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG, yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf (11 Rhagfyr) yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Dewch i ymuno â’r arbenigwraig ym maes Ffiseg a Cherddoriaeth Wendy Sadler, sef sylfaenydd gyfarwyddwr science made simple i ddarganfod nifer o syniadau anghyffredin ynglŷn â sut y gallwch chi greu cerddoriaeth yn eich parti Nadolig eleni.

Cyn yr oes recordio ddigidol, roedd teuluoedd yn arfer eistedd o gwmpas y tân a chreu eu cerddoriaeth eu hunain, ond nawr gallwn ddefnyddio peiriannau o bob math i wella’r broses ac i helpu’r rheini nad ydynt mor gerddorol i fwynhau cerddoriaeth Nadolig. Bydd Wendy yn eich arwain ar daith soniarus gan egluro sut mae technoleg wedi trawsnewid y dulliau yr ydym yn eu defnyddio i greu, recordio ac addasu sain. O’r manylion sylfaenol ynglŷn â sut yr ydym yn cynhyrchu sain â’n lleisiau i’r modd mae cyfrifiaduron - a hyd yn oed apps ffôn - yn gallu ein helpu i ganu mewn tiwn.

Dywedodd yr Athro Faron Moller o Brifysgol Abertawe, Cyfarwyddwr un o brif brosiectau ITWales, sef Technocamps, “Mae’r ddarlith Nadolig flynyddol bob amser yn boblogaidd ymhlith busnesau, teuluoedd ac ysgolion ac eleni bydd yn rhoi cipolwg gwych ar fyd technoleg, gyda blas Nadoligaidd. Bydd y gynulleidfa yn cael cyfle i wrando ar ddarlith ysbrydoledig gan Wendy, Prif Swyddog Gweithredol science made simple, a fydd yn archwilio cerddoriaeth trwy dechnoleg, darlith hwyliog a diddorol na ddylech ei cholli.”

Wendy Sadler

Dywedodd Wendy Sadler, Sylfaenydd Gyfarwyddwr science made simple, “Mae’n grêt cael y cyfle i rannu fy nghariad at wyddoniaeth y pethau rwy’n mwyhau eu cael adeg y Nadolig sef dyfeisiau a cherddoriaeth! Rwy’n dwli ar y ffaith bod technoleg wedi gwneud cerddoriaeth yn beth cynhwysol i bawb, heb boeni am dalent ond mae’n codi rhai materion diddorol ynglŷn â’r hyn a all ddigwydd wrth i dechnoleg ddechrau cymryd drosodd!”.

 

 

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn cael ei gefnogi gan ddau brif brosiect ITWales sef Technocamps a Chynghrair Meddalwedd Cymru. Os oes gennych ddiddordeb i fod yn bresennol gallwch gofrestru yn http://itwalesbcsxmaslecture.eventbrite.com/# neu gallwch gysylltu ag ITWales yn uniongyrchol ar 01792 606652 neu anfon e-bost at sian.jones@swansea.ac.uk 

Dywedodd Jeremy White, rheolwr digwyddiadau Cangen De Cymru y Gymdeithas Cyfrifiadurol Prydeinig – y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG, “Mae ein digwyddiad Nadolig bob amser yn noson dda ar gyfer unrhyw un a chanddynt ddiddordeb yn y modd mae cyfrifiaduron yn effeithio ar ein bywydau ac nid oes gwahaniaeth a ydych yn weithiwr TG proffesiynol profiadol neu’n un o’r teulu, mae’r trafodaethau hyn bob amser yn cael eu cynllunio i apelio’n eang. Rwy’n gwybod y bydd hyn yn rhoi gogwydd gwahanol ar yr alawon yr ydym yn eu clywed trwy gydol gwyliau’r Nadolig; byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu.”

Science made simple

Menter gymdeithasol yw science made simple sy’n angerddol am wyddoniaeth a phopeth sy’n gysylltiedig â’r maes! Ein nod yw rhannu ein brwdfrydedd trwy gynnig detholiad o brofiadau ysbrydoledig ac addysgol a anelir yn arbennig at ysgolion, gwyliau, cynulleidfaoedd sy’n oedolion a’r cyhoedd. Ein bwriad yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr, ennyn diddordeb y cyhoedd mewn STEM (Gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn rhan o ddiwylliant poblogaidd, a chryfhau’r cysylltiad rhwng ymchwilwyr a’r cyhoedd.

Rydym yn gwneud hyn trwy hyfforddi cyfathrebwyr gwyddoniaeth proffesiynol ar gyfer sioeau gwyddoniaeth o safon uchel, trwy amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyniadau byw, arddangosiadau, technegau theatr a dulliau artistig eraill. Rydym hefyd yn datblygu deunyddiau addysgol ac yn creu erthyglau a chyfryngau gwyddoniaeth hygyrch ar gyfer y cyhoedd.

Cymdeithas Cyfrifiadurol Prydain – Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG

Mae Cymdeithas Cyfrifiadurol Prydain, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG yn hyrwyddo’r alwedigaeth TG yn fyd eang a buddiannau unigolion sy’n ymwneud â’r alwedigaeth er lles pawb. Mae’r Sefydliad yn meithrin cysylltiadau rhwng arbenigwyr o’r diwydiant, y byd academaidd a busnes i hyrwyddo ffyrdd newydd o feddwl, addysg a rhannu gwybodaeth. Trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus a chyfres o gymwysterau TG sy’n cael eu parchu, mae’r Sefydliad yn ceisio hyrwyddo arfer proffesiynol yn unol â’r galw gan fusnes. Mae’n rhoi cymorth ymarferol a gwasanaethau gwybodaeth i’w aelodau ac i gymunedau gwirfoddol ledled y byd. Mae’r Sefydliad hefyd yn cydweithio â llywodraeth, diwydiant a chyrff perthnasol i sefydlu arferion gwaith da, codau ymddygiad, fframweithiau sgiliau a safonau cyffredin. Mae hefyd yn cynnig ystod o wasanaethau ymgynghori i gyflogwyr i’w helpu i feithrin arfer gorau.

ITWales

Sefydlwyd ITWales ym 1993 yn uned gyswllt ddiwydiannol i’r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n parhau i dyfu gyda dau brosiect gwerth miliynau o bunnau sy’n cael eu hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sef Cynghrair Meddalwedd Cymru (£13m) a Technocamps (£6m) a’i gynllun llwyddiannus sy’n darparu Lleoliadau Gwaith i Fyfyrwyr a Graddedigion.

Mae cylchgrawn 'ITWales Magazine' a gyhoeddir bob dau fis yn parhau yn adnodd gwerthfawr ar-lein i fusnesau a’r byd academaidd yng Nghymru – gan ddarparu newyddion, erthyglau nodwedd a chyfweliadau dethol ar dechnoleg a’r diwydiant TG yng Nghymru.

Technocamps

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan £3.9 miliwn oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae’n darparu cyfres o raglenni allgymorth i ysgolion, colegau a darparwyr addysgol eraill yn ardal cydgyfeirio Cymru, gan ysbrydoli pobl ifanc i ystyried y pynciau cyfrifiadura sy’n sail i’r pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Mae gan Technocamps y nod hir dymor o’u hannog i ddilyn gyrfaoedd mewn maes a fydd yn gyrru twf economaidd yng Nghymru.

Mae Technocamps yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth a phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg.

Cynghrair Meddalwedd Cymru

Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru yn cefnogi arloesedd a thwf yn y Sector TGCh a Meddalwedd yn ardaloedd Cydgyfeirio Cymru. Mae'n creu llwyfan i ddatblygwyr ar draws y rhanbarth fel y gallant rwydweithio a rhannu arfer gorau, a hyrwyddo Cymru fel sbardun allweddol ym maes Datblygu Meddalwedd. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgolion Bangor, Morgannwg, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ariennir Cynghrair Meddalwedd Cymru gan Gronfa Gydgyfeirio Cymdeithasol Ewrop yr UE trwy Lywodraeth Cymru

Lleoliadau Gwaith i Fyfyrwyr a Graddedigion

Mae ITWales yn cynnig Cynllun Lleoliadau Gwaith i fyfyrwyr a graddedigion, gan arbenigo ar drefnu Lleoliadau Gwaith mewn busnesau TG a Chyfrifiadura ledled Cymru. Gan mai ni yw’r gangen gyswllt ddiwydiannol ar gyfer Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe, mae gennym wybodaeth TG arbenigol.

Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol o safon fyd-eang, sy’n rhoi pwyslais ar  ymchwil. Mae wedi’i lleoli ar dir parc trawiadol, uwchben Bae Abertawe wrth ymyl  Penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig.  A hithau wedi’i sefydlu yn 1920, mae’r Brifysgol bellach yn cynnig tua 500 o gyrsiau israddedig a 150 o gyrsiau uwchraddedig i 15,921 o fyfyrwyr israddedig  ac uwchraddedig. Ewch i www.swansea.ac.uk.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Siân Jones, Rheolwr Cyfathrebu ar 01792 606652 neu e-bost communications@technocamps.com.