Tîm Prifysgol Abertawe’n hedfan yn uchel mewn cystadleuaeth dylunio awyrennau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Glaniodd Prifysgol Abertawe, a gynrychiolwyd gan Roberto Moruljo, y wobr gyntaf yn IT FLIES USA, cystadleuaeth Dylunio a Rheoli Awyrennau Grwp Efelychu Hedfan Merlin, a gynhaliwyd yn yr Ysgol Beirianneg, Prifysgol Dayton, Ohio.

Llwyddodd Roberto i ennill cystadleuaeth frwd gyda’i ddyluniad awyren SEAM addasedig, dyluniad y mae’r tîm o wyth o fyfyrwyr gradd Meistr Peirianneg Awyrofod o Abertawe eisoes wedi ennill gwobr amdano pan ddyfarnwyd ef yn gyntaf ar y cyd yn IT FLIES UK fis Mehefin diwethaf. 

Mae SEAM yn jet ysgafn iawn i 4 o deithwyr, gyda dyluniad canard rheolaeth blaen, dim sefydlogydd cynffon llorweddol, a llywiau dwbl wedi’u gosod ar ddiwedd yr adenydd. Ar gyfer gwthiad mae’n defnyddio dwy ffan tyrbo dwythell agored.

Enillodd Roberto y wobr gyntaf o $750, gyda myfyrwyr o Dayton yn dod yn ail, a myfyrwyr o Brifysgol Pennsylvania State yn drydydd. Enillodd tîm arall o Dayton wobr y cyflwyniad gyda’i dyluniad o awyren Galaxy C-5A.

Roberto Morujo

Meddai Roberto Morujo, o dîm Prifysgol Abertawe: “Roedd hi’n gyfle gwych i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Dylunio a Rheoli Awyrennau UDA 2012 lle yr oedd modd i beilotiaid proffesiynol o Awyrlu’r Unol Daleithiau weld sut y mae’r awyren yn ymddwyn dan gyflyrau hedfan go iawn. Ar ôl hedfan ac asesu’r modelau gwahanol, rhoesant adborth i ni ynglyn â sut i wella’r awyren. Gwnaeth aros ar y campws ym Mhrifysgol Dayton rhoi amser i mi wneud pethau eraill hefyd - cefais gyfle i ymweld ag amgueddfa enfawr Awyrlu Wright Patterson, profi’r ffordd o fyw mewn Prifysgol Americanaidd, ymweld â’u labordai a mynychu dosbarthiadau. Rydw i wrth fy modd fy mod wedi ennill IT FLIES USA. Fodd bynnag, roedd hi’n her anodd i mi gan yr oeddwn yn cynrychioli’r tîm dylunio gwreiddiol o wyth o fyfyrwyr.”

Mae cystadleuaeth Dylunio a Rheoli Awyrennau Grwp Efelychu Hedfan Merlin “IT FLIES USA” yn ei hail flwyddyn. Mae’r gystadleuaeth o ansawdd uchel, gyda cheisiadau’n dod o brifysgolion yn UDA a’r DU. Mae’r dyluniadau yn cael eu hasesu ar efelychydd gan dri pheilot prawf profiadol iawn o’r Unol Daleithiau, tra bod yr Adran Gyflwyno wedi’i barnu gan dri aelod o’r Gymdeithas Peirianwyr Prawf Arbrofol.

Meddai’r Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Portffolio Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe: “Yn draddodiadol, mae Abertawe wedi gwneud yn dda yn IT FLIES ac wedi gwneud yn arbennig o dda dros y ddwy flynedd diwethaf. Prifysgol Abertawe yw’r unig Brifysgol i ddal y teitl enillydd cyffredinol cystadlaethau IT FLIES yr Unol Daleithiau a’r DU ar yr un pryd. Mae hwn yn llwyddiant i fod yn falch ohono ac yn adlewyrchu’n dda ar fyfyrwyr y Brifysgol ac ar yr amgylchedd dysgu ac addysgu ardderchog yn Abertawe i fyfyrwyr ar ein graddau peirianneg awyrofod achrededig.

“Eleni, cawsom dri chynnig gan y Brifysgol ar gyfer fersiwn Prydeinig y gystadleuaeth a fydd yn digwydd ar 12 Mehefin ym Mhrifysgol Coventry: dau dîm yn cyflwyno awyrennau amnewid A320, ac un unigolyn a fydd yn cyflwyno dyluniad awyrlong, am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth.”