Technoleg yr 21ain Ganrif yn bwrw goleuni ar drysor canoloesol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect unigryw am long ryfel hanesyddol y Mary Rose, sy'n darparu gwybodaeth am fywyd yn y cyfnod canoloesol, yn elwa o dechnoleg HP yr 21ain Ganrif.

Am y 18 mis diwethaf mae Ymddiriedolaeth y Mary Rose wedi bod yn gweithio gyda gwyddonwyr chwaraeon o’r Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe i ddarganfod mwy am fywyd y saethwyr canoloesol ar fwrdd y llong.

Pan gafodd llong ryfel Harri VIII, a suddodd yn 1545, ei chodi o’r Solent yn 1982, cafodd miloedd lawer o arteffactau canoloesol ynghyd â 92 o sgerbydau lled-gyflawn o griw y Mary Rose eu canfod.

Dywedodd Nick Owen, Biocemegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff o’r Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, "Mae'r sampl hon o weddillion dynol yn cynnig cyfle unigryw i astudio newidiadau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau mewn sgerbydau dynol. Mae cryn dystiolaeth bod criw o saethyddion ar fwrdd y llong pan suddodd, ar adeg pan oedd llawer o saethwyr yn dod o Gymru a De-orllewin Lloegr.

"Roedd gan y saethwyr hyn dechnegau arbenigol ar gyfer gwneud a defnyddio bwâu hirion pwerus iawn. Roedd angen oes o hyfforddiant a chryfder anferthol er mwyn defnyddio rhai bwâu gan fod y saethwyr yn gorfod tynnu pwysau hyd at 200lb  (tua 90kg). "

Mary Rose skull

Eglura Alexzandra Hildred, Curadur Ordnans Ymddiriedolaeth y Mary Rose, "Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob dyn ymarfer saethyddiaeth yn rheolaidd o oedran cynnar, ac mae llawer o'r sgerbydau a ganfuwyd yn arddangos tystiolaeth o anafiadau straen ailadroddus yn yr ysgwydd a gwaelod yr asgwrn cefn. Gallai hyn fod o ganlyniad i saethu bwâu hirion trymion yn rheolaidd. Efallai y bydd mesur y straeniau a'u heffaith ar y sgerbwd yn ein galluogi o'r diwedd i ynysu grwp elît o saethyddion proffesiynol o'r llong.”

Mae Mr Owen a'i dîm yn seilio eu hymchwil ar ddadansoddiad biomecanyddol o sgerbydau’r saethyddion canoloesol er mwyn archwilio effaith oes o ddefnyddio bwâu hirion pwerus iawn ar y system gyhyrysgerbydol.

Mae rhan o'r broses o ddadansoddi’r sgerbydau yn cynnwys creu delweddau 3-D rhithwir fel bod modd cymryd mesuriadau o’r gweddillion heb achosi unrhyw niwed i'r arteffactau treftadaeth gwerthfawr. Disgwylir canlyniadau'r ymchwil hwn yn yr haf.

Tra roedd tîm Mr Owen yn sganio’r sgerbydau, roedd Ymddiriedolaeth y Mary Rose yn dod o hyd i fodelau o rai o'r penglogau yn eu casgliad er mwyn creu adluniad o’r wynebau. Cysylltodd yr Ymddiriedolaeth â'r tîm er mwyn gweld a oedd modd sganio ac argraffu penglog 3-D yn hytrach na defnyddio dulliau mwy traddodiadol.

Yn sgil yr arbenigedd a oedd gan y Brifysgol wrth weithio ar y cyd â Phrosiect Llong Ganoloesol Casnewydd, roedd modd i dîm y Mary Rose sganio, ôl- brosesu ac argraffu nifer o benglogau o’r casgliad mewn 3-D gyda nawdd gan HP.

Gwnaed y beirianneg gildroadwy ar y penglogau gan ddefnyddio sganiwr laser 3-D o fewn y Brifysgol  ac “argraffodd”  Dr Nick Lavery a Will Newton y penglogau gydag argraffydd 3-D y Coleg.

Dywedodd Alex Hildred, "Mae olion saith unigolyn sydd wedi eu cysylltu’n agos â dillad ac eiddo, a oedd yn awgrymu galwedigaethau penodol, wedi cael eu dewis fel cymeriadau allweddol o fewn yr arddangosfa newydd. Bydd sganio'r penglogau yn galluogi adluniadau wynebau saer, pen fagnelwr, saethwr pyrser, swyddog a bonheddwr. "

Mae'r penglogau argraffedig bellach yn cael eu hanfon i Sweden ble bydd yr arlunydd fforensig Oscar Nilsson yn ail-greu wynebau o'r gorffennol.

I wybod mwy cliciwch ar  https://www.facebook.com/HPdesigners

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Delyth Purchase, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn 01792 513245 neu ebost: d.purchase@abertawe.ac.uk