Rhoi myfyrwyr ar y blaen yn ystod cyfnod anodd - Academi Gyflogadwyedd newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dros 90% o'i myfyrwyr mewn gwaith neu astudiaeth bellach chwe mis ar ôl graddio, ond mae Prifysgol Abertawe yn bwriadu rhoi hyd yn oed mwy o fantais i'w myfyrwyr wrth lansio'i Hacademi Gyflogadwyedd newydd.

Bydd yr Academi yn canolbwyntio ar wella cyfleoedd lleoliad gwaith, datblygu sgiliau entrepreneuraidd a chefnogi menter. Ei nod yw cynyddu:

  • cyfran y graddedigion sy'n sicrhau cyflogaeth raddedig
  • ymgysylltiad gan gyflogwyr, cynrychiolwyr cyflogwyr a chyrff proffesiynol ym maes dysgu myfyrwyr
  • y nifer o fyfyrwyr ar leoliadau gwaith, gan gynnwys rhai tramor.

Bydd yr Academi yn cael ei lansio ar gampws y Brifysgol ar Ddydd Iau Mawrth 15fed gan Edwina Hart, AC, y Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

Library1

Wrth groesawu'r fenter dywedodd Mrs Hart bod annog entrepreneuriaeth a menter yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru:

"Nid cychwyn busnes yn unig yw entrepreneuriaeth ond hefyd annog pobl ifanc i fabwysiadu ymagwedd a meddylfryd entrepreneuraidd p'un ai ydynt yn gweithio drostynt eu hunain, yn gweithio i eraill neu'n sefydlu busnesau arloesol.

"Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn meddu ar agwedd hyderus fel y gallant addasu i heriau newydd ac chael eu cymell i lwyddo. Mae'r Academi newydd wedi ei chynllunio nid yn unig i wella cyfleoedd cyflogaeth pobl ifanc, ond i ehangu eu profiadau, ac mae hynny i'w groesawu."

Mae'r Brifysgol eisoes yn cynnal cynllun Gwobr Gyflogadwyedd Abertawe ar gyfer myfyrwyr. Mae'r cynllun yn helpu myfyrwyr i ganfod eu diddordebau, adnabod dewisiadau gyrfa posibl, ac yn darparu profiad a all helpu i roi hwb i'w sgiliau. Yn y lansiad, bydd dau fyfyriwr, Libby Anderson a Steven Begbie, sydd newydd orffen y cynllun, yn derbyn eu tystysgrifau gan Edwina Hart.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies: "Mae dros 90% o'n myfyrwyr eisoes mewn gwaith neu'n astudio chwe mis ar ôl graddio. Mae nifer o'r lleill wedi dewis gohirio gweithio am flwyddyn er mwyn teithio. Ond mae gennym ddiddordeb tymor hir yn llwyddiannau'n myfyrwyr; rydym am sicrhau bod graddedigion Abertawe ar y blaen wrth ddatblygu a mynd ar drywydd y gyrfaoedd mwyaf gwerthfawr. Dyma'r her y bydd yr Academi yn mynd i'r afael â hi".

Dywedodd yr Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-Ganghellor, a fydd yn arwain yr Academi,: "Bydd yr Academi newydd gyffrous yn cefnogi datblygu economaidd drwy gynhyrchu graddedigion gyda sgiliau cyflogadwyedd ardderchog a meddylfryd byd-eang, y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr. Bydd Academi Gyflogadwyedd Abertawe hefyd yn annog myfyrwyr i greu cyfleoedd drwy fenter, drwy ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd ac yn darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer sefydlu busnesau newydd. "

Library2

Eglurodd Judith James, rheolwr prosiect, pa fath o gyfleoedd lleoliad gwaith sydd ar gael i fyfyrwyr: "Rydym yn chwilio am heriau gweithle gwahanol fel y gall myfyrwyr roi cynnig ar brofiadau newydd a symud allan o'u parth cysur. Er enghraifft, mae gennym eisoes gyfleoedd lleoliad yn yr Arctig, yn rhanbarth y cefnfor deheuol ac yn labordai ymchwil CERN yn y Swistir.

Does dim angen i'r her fod yn un ryngwladol - gallai fod gyda chwmni bach o fewn y rhanbarth; ond fe fydd yn gyffrous ac yn berthnasol fel y gall y myfyriwr greu CV rhagorol. Rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau a chyn-fyfyrwyr yn ein cefnogi drwy herio'n myfyrwyr!"

Bydd y lansiad hefyd yn cynnwys anerchiad gan Simon Gibson OBE. Simon yw pennaeth Sefydliad Alacrity, a phrif weithredwr Wesley Clover, y cwmni a sefydlwyd gan yr entrepreneur TG Cymreig - ac un o raddedigion Abertawe  - Syr Terry Matthews.

Dywedodd Simon: ""Rwy' wedi fy nghyffroi gan yr Academi newydd hon ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n adlewyrchu angen diwydiant am raddedigion hynod gyflogadwy a mentrus. Mae Sefydliad Alacrity yn cefnogi'r Brifysgol drwy ddarparu cyfleoedd heriol ar gyfer sefydlu busnesau newydd i raddedigion o fewn y diwydiant telathrebu. Rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau eraill hefyd yn cefnogi'r fenter hon ac yn cyfrannu at ddatblygu potensial ein myfyrwyr. "