Prifysgol Abertawe yn helpu i ragfynegi dyfodol morlin y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect newydd yn cael ei lansio a fydd yn helpu darogan sut y bydd morlin y DU yn edrych yn y dyfodol, dros y 100 mlynedd nesaf.

Mae’r prosiect pedair blynedd iCoast, gwerth £2.9m, yn dod â Phrifysgol Abertawe ynghyd â phrifysgolion blaenllaw yn y DU, labordai ymchwil ac ymgynghorwyr ymchwil i ddatblygu dulliau newydd i ragfynegi newidiadau hirdymor i’n morliniau. Mae’r gwaith hwn wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ac mae’n bartner i’r Asiantaeth Amgylcheddol, a fydd yn defnyddio’r dulliau hyn i leihau’r peryg hirdymor o lifogydd ac erydiad.

Mae ardaloedd arfordirol y DU mewn mwy o beryg o lifogydd ac erydiad nac ardaloedd tua’r tir, a gall dirywio eu systemau geomorffig oherwydd diffyg gwaddod a/neu newid hinsawdd, gynyddu’r peryglon hyn yn sylweddol.

Yn y gorffennol, roedd y gallu i ddadansoddi a rhagweld newidiadau geomorffig yn gyfyngedig. Fodd bynnag, diolch i welliant yn y gwaith o ddadansoddi ymddygiad tirffurfiau arfordirol ac alltraeth, bydd prosiect iCoast yn ceisio datblygu a gweithredu modelau a fydd yn torri tir newydd o safbwynt rhagfynegi ymddygiad arfordirol dan gyflyrau newidiol. Bydd y modelau tirffurf ymddygiadol hyn yn gallu cael eu gweithredu’n gypledig ar raddfeydd rhanbarthol i fynd i’r afael â rhyngweithiadau allweddol rhwng cyfryngau newid hinsawdd, cyflenwad gwaddod, morffoleg ac erydiad, a peryg llifogydd.

Caiff y modelau hyn eu cyflawni drwy bedair ffrwd gwaith:

- Fframwaith Modelu Systemau a fydd yn nodweddu elfennau a nodweddion arfordirol a’r perthnasau rhyngddynt er mwyn diffinio pa fodelau meintiol sydd eu hangen i efelychu’r data;

- Cynhyrchu Modelau Geomorffig Ymddygiadol gan ddefnyddio arsylwadau i ddod o hyd i batrymau ymddygiad rhwng gwahanol newidynnau geomorffig y gellir yna eu defnyddio i ragfynegi ymddygiad systemau arfordirol yn y dyfodolCynhelir astudiaethau achos mewn dau ranbarth arfordirol cyferbyniol (o Lowestoft i Harwich yn Suffolk a Bae Lerpwl) i werthuso’r canlyniadau o ffrydiau gwaith 1 a 2;

- Llwybr at effaith – sicrhau y caiff canlyniadau a modelau cydrannol yr ymchwil eu defnyddio’n gyflym ac yn effeithiol mewn asesiadau arfordirol strategol ac mewn gwyddoniaeth arfordirol yn ehangach.

Meddai Dominic Reeve, Athro mewn Peirianneg Arfordirol ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r her a osodir gan newid hinsawdd yn gofyn am newid yn y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael ag erydiad arfordirol a pheryg llifogydd. Mae brwydro yn erbyn grym Natur yn anodd ac yn gostus. Mae’n fwy effeithiol o lawer os ydym yn gwthio Natur i’r cyfeiriad yr ydym am iddi fynd. I wneud hyn, mae angen dealltwriaeth llawer gwell o’r prosesau sy’n arwain at newidiadau yn ein morlin dros gyfnodau o ddegawdau neu fwy.”

“Bydd prosiect iCoast yn creu gwybodaeth wedi’i ffurfioli o systemau arfordirol ar draws disgyblaethau gwyddoniaeth, daearyddiaeth a pheirianneg gan greu cenhedlaeth newydd o ddulliau ar gyfer rhagfynegi yn y tymor canolig, ac yn sgil hynny, bydd yn darparu ymarferwyr â gwell ffyrdd o ddatblygu datrysiadau cynaliadwy i’n cymunedau arfordirol.”

Mae prosiect iCoast wedi tyfu o waith blaenorol gan Efelychydd Arfordirol Canolfan Tyndall, a fu’n asesu sut y mae newidiadau arfordirol yn effeithio ar ranbarth o safbwynt ffisegol ac effeithiau llifogydd ac erydiad, a’r rhaglen ymchwil a datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol ar y cyd rhwng Defra/yr Asiantaeth Amgylcheddol, a ariannodd y Rhaglen Ymchwil Aberoedd a oedd yn sail i lawer o syniadau modelu morffoleg arfordirol hybrid a phrosiect SC060074 ar nodweddu a rhagfynegi newid graddfa eang, hirdymor mewn ymddygiadau geomorffolegol arfordirol.

Meddai’r Athro Javier Bonet, Pennaeth y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe: “Roeddwn i’n falch iawn o glywed am lwyddiant ariannu’r prosiect iCoast. Ymunodd yr Athro Dominic Reeve â Phrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2011 i ddatblygu gweithgarwch peirianneg arfordirol ym mhortffolio ymchwil y Coleg, a hefyd i gryfhau gweithgarwch ar draws y thema dwr ac amgylcheddol ehangach.”

Mae’r consortiwm iCoast yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Southampton, Prifysgol Coleg Llundain, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Caerdydd, HR Wallingford, y Ganolfan Gefnforeg Genedlaethol, Arolwg Daearegol Prydain, Arsyllfa Arfordirol Haskoning a’r Sianel.