Prifysgol Abertawe’n rasio i fyny Cynghrair Prifysgolion y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ffigyrau newydd a ryddhawyd heddiw yn dangos bod Abertawe wedi neidio 11 lle yn y canllaw The Complete University Guide 2013 sy’n cadarnhau mai hon yw’r Brifysgol sydd wedi gwella’r mwyaf yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf.

Mae’r canllaw, sy’n ymdrin â 116 o brifysgolion y DU’n dangos bod Abertawe wedi gwella’n gyson - gan godi o’r 60ain safle yn 2011 i 49fed yn 2013 - sy’n golygu bod Abertawe’n disgleirio wedi iddi gael ei graddio’r ail uchaf ymhlith Prifysgolion Cymru yn nhabl cynghrair y canllaw.

Mae’r Complete University Guide (www.thecompleteuniversityguide.co.uk) yn seiliedig ar naw dull mesur a grëwyd o wybodaeth ddibynadwy a chynhwysfawr y gall ymgeiswyr prifysgol eu defnyddio fel sail ar gyfer un o ddewisiadau pwysicaf eu bywydau. Mae data ar gyfer y safleoedd graddio yn deillio o ffynonellau swyddogol ac maen nhw wedi’u gwirio’n fanwl iawn gyda’r Prifysgolion eu hunain i greu tabl cynghrair annibynnol ac awdurdodol sydd wedi’i gynllunio i gwrdd ag anghenion ymgeiswyr.

Mae’r canllaw yn nodi bod effaith y dirywiad economaidd ar ragolygon swyddi i raddedigion yn parhau i gael ei adlewyrchu yn sawl un o’r newidiadau mewn safleoedd cymharol yn y tabl gyda rhai prifysgolion yn disgyn yn ddramatig, tra bod eraill wedi cael cryn lwyddiant yn groes i’r duedd.

Gan groesawu’r ffigyrau newydd, meddai’r Dirprwy Is-ganghellor Hilary Lappin-Scott:

“Rydym yn hynod falch o’n gwelliant yng nghanllaw’r Complete University Guide.  Rydym wedi gweithio’n galed mewn nifer o feysydd i wella’n perfformiad ac mae’n braf gweld bod y gwaith yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae gwelliant o safbwynt rhagolygon swyddi i’n graddedigion yn arbennig wedi bod yn ffactor allweddol sydd wedi cyfrannu at ein perfformiad. Rydym wedi gweld cynnydd yn ansawdd y myfyrwyr adeg mynediad a chynnydd yn y rheiny sy’n mynd ymlaen i ragori yn eu hastudiaethau a derbyn canlyniadau ardderchog wrth gwblhau eu cwrs. Rydym yn edrych ymlaen at welliannau pellach yn y blynyddoedd sydd i ddod.”