Pobl Ifanc a Defnyddio Sylweddau:Chwalu’r Mythau – Ymateb i heriau newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y symposiwm hwn ym Mhrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar swyddogaeth ysgolion o ran ymateb i ddefnydd pobl ifanc o sylweddau yng nghyd-destun strategaeth genedlaethol sy’n datblygu, a diwygio addysg yng Nghymru.

Teitl: Young People and Substance Use: Dispelling the myths – rising to meet new challenges

Cadeirydd y symposiwm fydd Eddie Isles, Cadeirydd Tîm Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau Abertawe a Rheolwr Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Abertawe.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys
Yr Athro Kevin Haines, Athro Troseddeg a Chyfiawnder Ieuenctid ym Mhrifysgol Abertawe, a Rachel Evans, ymchwilydd i Brosiect Ymchwil Rhestru Defnydd Sylweddau Abertawe

Jamie Harris, Rheolwr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, Prosiect Cyffuriau Abertawe

PC Ann Dinneen, Swyddog Diogelwch y Gymuned, Heddlu De Cymru

Julian Kennedy, Dirprwy Bennaeth, Ysgol Olchfa, Abertawe

Vicky Carlisle, Cydlynydd Helpu Pobl Ifanc drwy Addysgu Cyfoedion (HYPE), Tîm Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau Abertawe

Dyddiad: Dydd Mercher 21 Tachwedd

Amser: 4pm – 6pm

Lleoliad: Darlithfa Callaghan, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim, ond mae nifer y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig, felly awgrymir archebu yn gynnar

Crynodeb o’r digwyddiad: Bydd y symposiwm aml-asiantaeth ac aml-ddisgyblaethol hwn yn trafod ymchwil sy’n ymwneud â defnydd pobl ifanc o sylweddau, ac effeithiau posibl rhaglenni ataliol a mentrau sy’n seiliedig ar gyfoedion.

Gan mai’r pwyslais yw gwella gwasanaethau atal a chefnogi pobl ifanc, yn arbennig mewn lleoliadau addysgol, bydd y symposiwm o ddiddordeb i reolwyr ysgolion, llywodraethwyr, darparwyr triniaeth i ddefnyddwyr sylweddau, swyddogion ac aelodau etholedig awdurdodau addysg lleol, staff timau gweithredu ar gamddefnyddio sylweddau, staff cyfiawnder ieuenctid a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Trefnwyd y digwyddiad gan Ganolfan Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol Prifysgol Abertawe, ar y cyd â Thîm Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau Abertawe.

Manylion cyswllt: I archebu lle, anfonwch e-bost i criminology.symposia@abertawe.ac.uk