Penglogau, bwâu hir, saethau ... a chribau nitiau! Gwyddoniaeth yn taflu goleuni ar fywyd ar fwrdd long ryfel Duduraidd ar gyfer ysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Roedd penglogau, esgyrn, bwâu hir, saethau a chribau nitiau Tuduraidd ymhlith yr amrywiaeth o arteffactau a archwiliwyd gan ddisgyblion o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt pan ddangosodd academyddion o Brifysgol Abertawe iddynt sut y mae technoleg yr 21ain ganrif yn taflu goleuni newydd ynghylch bywyd ar fwrdd llong ryfel yr 16eg ganrif The Mary Rose.

Ymwelodd Nick Owen a Dr Sarah Forbes-Robinson o’r Colegau Peirianneg a Gwyddoniaeth â’r disgyblion Blwyddyn 8 yn yr ysgol i ddatgelu sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg wedi’u helpu i ddarganfod mwy am fywydau pobl ar fwrdd llong ryfel Harri VIII a gafodd ei suddo yn 1545.

Dangosodd Mr Owen, Biocemegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff a fu’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Mary Rose, ei waith i’r disgyblion ar samplau o sgerbydau a godwyd gyda’r llong o’r Solent yn 1982. 

Mae ymchwil Mr Owen wedi canolbwyntio ar yr esgyrn y credir eu bod yn perthyn i grŵp elît o saethwyr proffesiynol y gwyddys eu bod ar fwrdd y llong pan suddodd. Mae llawer o’r sgerbydau’n dangos tystiolaeth o anafiadau straen ailadroddus i’r ysgwydd ac ardal y meingefn y credir eu bod o ganlyniad i saethu bwâu hir trwm yn rheolaidd.

Meddai Mr Owen: “Roedd gan saethwyr dechnegau arbenigol ar gyfer gwneud a defnyddio bwâu hir pwerus iawn. I ddefnyddio rhai bwâu roedd angen oes o hyfforddiant a chryfder aruthrol gan fod y saethwyr yn gorfod tynnu pwysau hyd at 200lb (tua 90kg).”

Mae Mr Owen wedi cynnal dadansoddiad biomecanyddol o sgerbydau’r saethwyr ac wedi adnabod effaith bywyd yn defnyddio bwâu hir pwerus iawn ar y system gyhyrysgerbydol, gan achosi i rai o’r esgyrn fod 50% yn fwy ar un ochr o’r corff o’u cymharu â’r rhai ar ochr arall y corff.

Gwnaeth Dr Forbes Robertson, Biolegydd sy’n arbenigo mewn DNA a geneteg ddangos i’r disgyblion fwy am ei hymchwil yn dadansoddi samplau bach o DNA a ddarganfuwyd yn y sgerbydau.

Meddai: “Gwnaeth y plant edrych ar beth yw DNA, a’r ffaith bod ganddo’r potensial i roi lot fawr o wybodaeth fanwl i ni o samplau bach a gall ddatgelu mwy am y criw oedd ar fwrdd, megis tôn eu croen, lliw eu gwallt a’u llygaid.”

Pan fydd canfyddiadau’r ymchwil DNA yn cael eu cwblhau, cânt eu hanfon at yr artist fforensig Oscar Nilsson yn Sweden sy’n gweithio gyda delweddau rhithwir 3-D a delweddau 3-D printiedig o’r penglogau a gafodd eu creu gan y brifysgol i wneud adluniadau cywir o’r penglogau.

Meddai Mr Owen: “Rydym yn gobeithio y bydd ein canfyddiadau yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddarpar-wyddonwyr yma yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt a hefyd yn ail-greu darn o fywyd o’r Mary Rose bron i 500 mlynedd ar ôl iddi gael ei suddo.”