O Belgrade i Brynmill: Arbenigwyr gyrfaoedd o Serbia yn dod i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

P’un ai y maent yn byw yn Abertawe neu yn Serbia, mae pobl ifanc ar draws Ewrop yn cael hi’n anodd dod o hyd i swyddi ar hyn o bryd. Mae arbenigwyr gyrfaoedd a chyflogadwyedd Prifysgol Abertawe’n gobeithio mynd i’r afael â’r broblem yr wythnos hon ar lefel ryngwladol drwy gynnal grwp o 14 o’u cymheiriaid o Serbia.

Mae’r arbenigwyr o Serbia wedi dod i Abertawe i gael gwybodaeth am waith gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd y Brifysgol. Y nod yw dod o hyd i syniadau am sut i ddatblygu eu gwasanaethau eu hunain yn eu gwlad eu hunain fel bod modd iddynt gynyddu’r cyfleoedd i’w myfyrwyr ddod o hyd i swyddi. Mae’r grwp yn cynnwys arbenigwyr gyrfaoedd a gweinidog o lywodraeth Serbia.

Mae’r ymweliad yn rhan o brosiect tair blynedd rhwng Prifysgol Abertawe a phrifysgolion yn Serbia. Mae’n cael ei gynnal fel rhan o brosiect Undeb Ewropeaidd sydd wedi’i fwriadu ar gyfer cynorthwyo gwledydd sy’n amgylchynu’r UE. Nid yw Serbia’n aelod o’r UE ar hyn o bryd ond mae’n gobeithio ymuno. 

Pauline McDonald yw pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Abertawe. Meddai hi:

"Mae’n bleser mawr gennym groesawu ein cydweithwyr o Serbia i Abertawe. Byddem yn cynnal sesiynau ymarfer gyda nhw am arweiniad gyrfaol, yn enwedig ein gwasanaethau ar-lein. Y syniad yw eu bod yn cael y darlun llawn o’r hyn y mae ein gwaith gyrfaoedd yn ei gynnwys.

Bydd cyfle iddynt weld ein cynghorwyr wrth eu gwaith, cymryd rhan mewn seminarau a chwrdd â rhai o’n myfyrwyr. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod iddynt am Wobr Gyflogadwyedd Abertawe, sydd wedi helpu ein myfyrwyr yn fawr i ddangos y sgiliau y maent yn eu cynnig i ddarpar gyflogwyr."   

Marija Jovanovic yw un o’r ymwelwyr o Serbia, o Ganolfan Datblygu Gyrfaol Prifysgol Belgrade. Meddai:

"Mae ein gwaith wedi’i fwriadu i ddatblygu arweiniad gyrfaol a gwella addysg uwch yn Serbia. 

Rydym wedi derbyn hyfforddiant gwych yr wythnos hon, wedi’i threfnu gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn Abertawe. Mae’r staff yn ymroddgar, ac mae’r brwdfrydedd sydd ganddynt wrth rannu eu gwybodaeth a’u profiad yn dwyn edmygedd. Rwy’n credu yr oedd y grwp cyfan yn ei werthfawrogi’n fawr."