Mynd am y Fedal Aur: Prosiect Olympaidd arloesol mewn ysgolion yn cael ei enwebu am wobr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhaglen arloesol ar gyfer ysgolion yn edrych ar orffennol a phresennol y Gemau Olympaidd yn mynd am y fedal aur am iddi gael ei henwebu ar gyfer gwobr i gydnabod prosiectau dychmygol sy’n annog disgyblion o gefndiroedd nad ydynt yn gefndiroedd traddodiadol i gael mynediad i addysg uwch.

Olympic visit days1 Mae’r rhaglen ‘Diwrnod Olympaidd’ a gynhelir gan Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru wedi’i gosod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menter Ehangu Cyfranogiad y Flwyddyn 2012 y Times Higher Education Supplement.

Bu’r prosiect yn cynnal cyfres o ‘Ddiwrnodau Olympaidd’ i ddisgyblion Blwyddyn 10 o Ysgolion Cyfun Cwmtawe, Birchgrove a Chymer Afan, yn eu gwahodd i brofi bywyd ar y campws ac archwilio sut y mae diwylliant clasurol wedi llunio’r byd heddiw. Cafodd y rhaglen hefyd ei darparu yn Gymraeg i Ysgol Gyfun Ystalyfera i annog disgyblion i ddilyn pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol.

Meddai Heather Pudner, Rheolwr y Bartneriaeth gyda’r partner blaen Prifysgol Abertawe: “Roeddem am fanteisio ar y brwdfrydedd ynghylch y Gemau Olympaidd, i agor drysau i ddealltwriaeth o’r Clasuron, gan dynnu sylw pobl ifanc at yr hen fyd a’u hannog i feddwl am astudio ar lefel addysg uwch.

“Gwnaethom gynnwys cyfuniad o chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth yn ystod digwyddiadau’r dydd gan gyflogi myfyrwyr Hanes a’r Clasuron i weithio fel llysgenhadon ac i fod yn esiamplau.”

Edrychodd y disgyblion ar gyd-destun hanesyddol, daearyddol a gwleidyddol hen Roeg a’r Gemau Olympaidd a’r pethau cyffredin rhwng yr hen fyd a’r byd modern.

Roedd y gweithgareddau’n cynnwys creu masgotiaid, cyflwyniad i’r wyddor Roegaidd a thrafodaethau ar safleoedd cymharol menywod. Gwnaeth chwarae, drama, gwisgoedd a rasys troed, sef yr hen ddull o redeg a cherdded cystadleuol, i gyd gyfrannu at brofiad diddorol a rhyngweithiol o’r hen fyd.

Gan ddefnyddio cwisiau a ffilmiau, bu disgyblion yna’n edrych ar sut y mae sinema fodern yn dehongli’r hen fyd. Gan droi at y Gemau Olympaidd modern, bu disgyblion yn edrych ar gyfnodau allweddol lle bu’r gemau’n gwrthdaro â sefyllfaoedd gwleidyddol megis Gemau Olympaidd 1936, apartheid yn Ne Affrica a’r ymosodiad terfysgaeth ar athletwyr o Israel ym 1972.

Meddai Ms Pudner: “Roedd y tîm wedi’u syfrdanu gan allu’r disgyblion i ymgolli eu hun mewn gweithgareddau dramatig a hanesyddol a hefyd i ddatgysylltu eu hun rhag y byd go iawn ac actio golygfeydd o’r gemau Olympaidd mewn gwisgoedd a wnaethant o ddefnydd a ailgylchwyd a thrwy hynny datblygu eu hunan hyder, a’u sgiliau gweithio mewn tîm a chyflwyno.

“Rhoddodd y disgyblion adborth cadarnhaol iawn, nifer ohonynt yn dweud bod y rhaglen wedi dangos bod addysg uwch yn ddewis iddynt.”

“Mae gan y tîm Ymgyrraedd yn Ehangach bortffolio a hanes cryf o ddigwyddiadau dysgu trwy brofiad ar y campws. Mae Llundain 2012 wedi’u darparu â chyfle i ddatblygu cymysgedd o’r hen fyd a’r byd modern mewn ffyrdd sy’n ysbrydoli pobl ifanc ag angerdd am yr hen fyd, ac yn rhoi dealltwriaeth iddynt hefyd o yma ac yn awr.”

Meddai’r Athro Alan Speight, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein bodd bod ‘Dyddiau Olympaidd Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru wedi’i chydnabod fel ymarfer ehangu mynediad enghreifftiol gan y Times Higher Education Supplement. Mae’n bwysig iawn bod pobl ifanc yn ymwybodol o hen hanes y Gemau Olympaidd a gall prifysgolion modern chwarae rôl yn hynny o beth, drwy weithio ag ysgolion a cholegau lleol i annog dealltwriaeth o ddysgu a chwaraeon.”

Cyhoeddir enillydd y wobr yng Ngwesty Grosvenor House yn Llundain ar y 29ain Tachwedd.