Myfyriwr yn ennill gwobr lleoliad gwaith £1000 Sefydliad Defnyddiau De Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Michael Agyeman, myfyriwr yn ei ail flwyddyn yn astudio Gwyddor a Pheirianneg Defnyddiau, wedi ennill mis o leoliad gwaith am dâl yn y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) – y Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth newydd, a arweinir gan Brifysgol Abertawe gyda Tata Steel.

Ar ddechrau’r haf, cynhaliodd Sefydliad Defnyddiau De Cymru gystadleuaeth ar gyfer myfyrwyr rhwng 18 a 21 mlwydd oedd. Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys ysgrifennu uchafswm o 1000 o eiriau ar sut y mae gwyddor defnyddiau’n dylanwadu ar ein bywydau yn ddyddiol, gyda’r enillydd yn cael ei ddewis/dewis gan Lywydd SWMA, Dr John Preston a Chyfarwyddwr y Ddoethuriaeth mewn Peirianneg, Dr James Sullivan.

Mae SPECIFIC yn Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth gwerth £20m a arweinir gan bennaeth Defnyddiau Prifysgol Abertawe, yr Athro David Worsley, sy’n canolbwyntio ar ymchwil gwyddor defnyddiau a chynnal cymwysiadau diwydiannol ar raddfa fwy at ddiben masnacheiddio.

Gwnaeth y gystadleuaeth ddenu nifer fawr o geisiadau ond yn ôl Dr Sullivan, “roedd un yn sefyll allan am ei wreiddioldeb a’i gynnwys technegol”.

Dechreuodd Michael weithio yn SPECIFIC yn gynnar ym mis Medi ac aeth i’r afael ag ymchwil academaidd yn gyflym. Ei brif brosiect oedd asesu microstrwythur aloiau magnesiwm a dylunio cyfarpar profi a fyddai’n caniatáu gosod triniaeth metel hylif newydd.

Michael Agyeman

 “Gwnes i fwynhau’r agwedd ymchwil ar ddefnyddiau yn fawr, mae llawer yn anoddach nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl ond yn wobrwyol tu hwnt” meddai Michael ar ôl treulio 3 wythnos yn y labordai o’r radd flaenaf yn profi ei syniadau.

Cafodd yr Athro Worsley ei blesio’n fawr a chymhwysedd a chymhelliad y myfyriwr – “Ymgollodd Michael ei hun yn ei brosiect yn llwyr a roddodd ei stamp ei hun ar y gwaith. Rydym yn gobeithio cyhoeddi ei ganfyddiadau ymchwil”.

Cafodd y siec am £1000 ei rhoi gan SWMA. Darparwyd offer ymchwil, goruchwyliaeth ac arweiniad gan Brifysgol Abertawe.

 

Llun (o’r chwith i’r dde); Dr John Preston (Llywydd SWMA), Michael Agyeman (gyda’r siec) a’r Athro David Worsley (Pennaeth Defnyddiau Prifysgol Abertawe).