Mark, Myfyriwr Ysbrydoledig, yn ennill Gwobr Dysgwr AU y Flwyddyn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, Mark Hall, yw enillydd Gwobr Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysg Oedolion Castell-nedd Port Talbot 2012.

HE Learner award Mark Hall Cynhaliodd Grwp Hyrwyddo Addysg Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â NIACE (Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus i Oedolion) Dysgu Cymru, eu Seremoni Wobrwyo ar gyfer Dysgwyr a Thiwtoriaid blynyddol ar ddydd Gwener 18 Mai 2012 yng Ngwesty'r Towers, Jersey Marine. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddysgwyr a thiwtoriaid i ennill cydnabyddiaeth am eu hymdrechion ac i arddangos eu hymrwymiad i ddysgu.

Mark Hall, o Landybie, sy'n astudio’n rhan-amser ar gyfer ei gwrs gradd BA Hanes yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion y Brifysgol, yng Nghastell-nedd a Llanelli, gipiodd Wobr Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn.

Cipiodd myfyrwyr eraill yr AABO, Alan King o Flaendulais, Castell-nedd a Dawn Kilinc o Bort Talbot, yr ail wobr ac enillodd Dawn Wobr Clod Uchel yn ogystal.

Daeth Mark yn fyfyriwr am y tro cyntaf pan ddechreuodd gwrs dysgu Cymraeg wedi iddo ddychwelyd i Gymru yn 2005 i ofalu am ei fam. Yn sgil yr ysbrydoliaeth a chefnogaeth a dderbyniodd gan ei diwtoriaid, fe gafodd ei  annog i fachu ar y cyfle i wella ei gymwysterau. Yn fuan wedyn fe gofrestrodd  Mark ar gwrs gradd Dyniaethau rhan amser a gyflwynir gan AABO. Ochr yn ochr ag ymgymryd â'i astudiaethau gradd, mae Mark yn gofalu am ei wraig ac mae’n rhaid iddo drefnu gofal iddi er mwyn ei alluogi i fynychu dosbarthiadau.

Cafodd Mark ei enwebu ar gyfer y Wobr gan diwtor Hanes AABO Gwenda Phillips a ddywedodd "Ers i mi ddod i ‘nabod Mark mae e wedi bod yn ymrwymedig iawn i'r cwrs. Mae'n teithio o Landybie i Gastell-nedd ac yn y gorffennol mae e wedi teithio i leoliadau cymunedol eraill i fynychu dosbarthiadau. Mae gan Mark wraig sydd angen gofal cyson a gwn ei fod yn poeni yn aml am ei wraig yn ystod dosbarthiadau ond dyw e byth yn dangos hynny. Mae’n rhaid bod e’n anodd iddo ganolbwyntio’n llawn ar ei waith, ond mae e bob amser yn gwneud hynny ag agwedd bositif."

Dywedodd Mark, a fydd yn dechrau ar ei flwyddyn olaf ym mis Medi, "Rwy'n benderfynol o ennill fy ngradd anrhydedd a byddwn yn falch o'r cyfle i ysbrydoli eraill yn yr un modd ag y cefais f’ysbrydoli gan fy nhiwtoriaid. Ar ôl i mi gwblhau fy ngradd ‘rwyf yn ystyried astudiaethau pellach neu o bosib gweithio ym maes addysg."

Wrth longyfarch Mark ar ei gamp, dywedodd Pennaeth yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Colin Trotman: "Rwy'n falch iawn bod Mark wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei astudiaethau. Mae'n fyfyriwr ysbrydoledig ac mae wedi llwyddo i gydbwyso ei gyfrifoldeb fel gofalydd â’i lwyth astudiaeth. Mae e i'w longyfarch ar ennill y wobr bwysig hon ac rwy'n dymuno'n dda iddo gyda'i astudiaethau flwyddyn olaf. Rydym i gyd yn falch iawn o'r hyn y mae e wedi’i gyflawni."