Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Bydd cyfle gan gwmnïau iechyd sy’n chwilio am fuddsoddiad i gyflwyno eu cynigion arloesol i banel o gyfalafwyr menter y mis nesaf yn Fforwm Menter agoriadol y Gynghrair Nanoiechyd Geltaidd (CAN).
Mae’r fenter CAN, a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Choleg y Drindod Dulyn, Prifysgol Dinas Ddilyn a Choleg y Brifysgol Dulyn, yn cynnal y Fforwm a’r Gynhadledd yn Stadiwm Liberty Abertawe ar ddydd Mercher, Medi 26.
Caiff y digwyddiad, a fydd yn dechrau am 8:30am ei gynnal mewn partneriaeth â Chynghrair Technoleg ac Entrepreneuriaeth Rice yn y brifysgol fyd enwog, Prifysgol Rice yn Houston Texas, UDA ac mae’n gobeithio efelychu llwyddiant Fforwm Menter Gwyddor Bywyd Texas blynyddol Prifysgol Rice.
Bydd y Fforwm yn dod â busnesau cenedlaethol a rhyngwladol ac academyddion blaenllaw ym maes Nanoiechyd at ei gilydd a bydd y prif siaradwyr yn cynnwys yr Athro Andrew Barron, Cadair Welch mewn Cemeg ac Athro mewn Gwyddor Defnyddio ym Mhrifysgol Rice, Texas a Dr Trevor Howe, Pennaeth Bioleg Strwythurol a Bioffiseg yn Janssen Research & Development (rhan o Johnson & Johnson).
Mae Fforwm Menter CAN wedi’i fwriadu ar gyfer busnesau sydd am gefnogi a masnacheiddio cysyniadau newydd ym maes gofal iechyd neu hwyluso twf pellach ar gyfer eu mentrau a bydd hyd at naw cyfle ar gael iddynt gyflwyno syniadau i gwmnïau arbennig, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio ag aelodau cysylltiol CAN.
Meddai’r Athro Steve Conlan, Cyfarwyddwr y Ganolfan NanoIechyd ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n arwain y fenter CAN: “Mae’r fforwm yn llwyfan delfrydol ar gyfer BBaChau sydd â diddordeb yn y sector Nanoiechyd sy’n datblygu i ddangos eu busnes a’u technolegau i gynulleidfa o fuddsoddwyr, cwmnïoedd cyfalaf menter gan gynnwys Finance Wales, arbenigwyr y diwydiant iechyd, arweinwyr busnes fferyllol a chyd entrepreneuriaid.
“Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan fusnesau tramor o’r Unol Daleithiau a Tsieina, sy’n edrych i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan CAN a’i ganolfan Ewropeaidd.”
Mae CAN yn croesawu ceisiadau gan gwmnïau sydd am gyflwyno syniadau yn y Fforwm Menter, yn ogystal â’r cwmnïoedd hynny sydd â diddordeb mynychu fel cyfranogwyr neu fuddsoddwyr.
Rhaid i bob sefydliad sydd am gymryd rhan neu gyflwyno syniad yn y digwyddiad gofrestru fel Aelod Cysylltiol CAN (£100 a TA! Y flwyddyn), sy’n galluogi iddynt fynychu’r digwyddiad â hyd at dri chynrychiolydd o’u sefydliad. Bydd cwmnïoedd yna’n derbyn buddion parhaus drwy gydol y flwyddyn am fod yn aelodau.
Am fanylion llawn ac i wneud cais, e-bostiwch: CAN@abertawe.ac.uk, neu ewch i www.celticnano.eu.
- Dydd Iau 30 Awst 2012 01.00 BST
- Dydd Iau 30 Awst 2012 17.52 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049