Hanesydd o Abertawe yn ennill ‘Gwobr Cyhoeddiad Rhagorol’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr David Turner o Adran Hanes a’r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Cyhoeddiad Rhagorol 2012 y Gymdeithas Hanes Anabledd am ei lyfr, Disability in Eighteenth-Century England: Imagining Physical Impairment (Routledge, 2012).

Caiff y wobr ei rhoi i’r llyfr Saesneg gorau i’w gyhoeddi yn y byd rhwng 2010 a 2012, ar unrhyw agwedd ar hanes anabledd. Ariannwyd yr ymchwil ar gyfer llyfr Dr Turner drwy Gymrodoriaeth fawreddog gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Mae’r wobr yn ychwanegu at enw da cynyddol Prifysgol Abertawe fel canolfan o ragoriaeth ryngwladol ym maes hanes anabledd, ac yn dilyn dyfarnu grant o bron i £1miliwn gan Ymddiriedolaeth Wellcome yn 2011.

Roedd y grant ar gyfer prosiect ymchwil ar faes ‘Disability and Industrial Society: A Comparative Cultural History of British Coalfields 1780-1948’ o dan arweiniad yr Athro Anne Borsay o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a Dr Turner, prosiect sy’n golygu cydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Ystrad Clud (Strathclyde) a Phrifysgol Northymbria.

Meddai pwyllgor gwobrwyo’r Gymdeithas Hanes Anabledd: “Roedd y pwyllgor dewis yn hoff iawn o gwmpas eang y llyfr, ei ymwneud manwl â hanes a theori anabledd, a’r ffyrdd y defnyddiodd Dr Turner ffynonellau archif er mwyn gwneud dadl gyffredinol ac er mwyn datgelu straeon unigolion o blith y bobl fawr a’r werin bobl.

“Mae Disability in Eighteenth-Century England yn nyddu syniadau diwylliant poblogaidd a chynrychiolaeth unigolion ynghyd mewn ffyrdd cynnil a doniol yn aml, ond gyda pharch bob amser. Mae rhyddiaith ffraeth a darllenadwy Dr Turner, ynghyd â’i ddadansoddiad trylwyr o ddeunydd archif, yn golygu bod Disability in Eighteenth-Century England yn llyfr y dylai pob myfyriwr ac arbenigwr ei ddarllen.”

Dywedodd Dr Turner, sy’n gweithio yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau: “Rydw i wrth fy modd ac yn ei theimlo’n fraint fy mod wedi ennill y wobr hon. Yn fy llyfr rwy’n ceisio datguddio profiadau ac ystyron diwylliannol cuddiedig anabledd yn y gorffennol, ac yn ceisio dangos perthnasedd ymchwil hanesyddol er mwyn deall materion sy’n effeithio ar bobl ag anableddau a’u teuluoedd hyd heddiw.”