Hanes Naturiol: Bywyd Glan y Môr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith gymunedol nesaf yng nghyfres rad ac am ddim Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) Prifysgol Abertawe ar ddechrau mis Mawrth.

Siaradwr: Dr Michael Isaac

Teitl y Ddarlith: Hanes Naturiol: Bywyd Glan y Môr

Dyddiad:  Iau 1af Mawrth 2012

Amser: 6.00pm – 7.45pm

Lleoliad: Resolfen Building Blocks, Resolfen ICC, Castell-nedd Port Talbot, SA11 4AB

Mynediad: Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond gan fod lle'n gyfyngedig yn y lleoliadau, gofynnwn i chi archebu lle ymlaen llaw fel na chewch eich siomi (gweler isod am fanylion cyswllt).


Gwybodaeth am y siaradwr: Ymunodd Dr Michael Isaac ag AABO ym 1986, ar ôl iddo fod yn diwtor rhan amser ers 1971. Cyn ymuno â'r Adran, bu'n geidwad Amgueddfa Abertawe a darlithydd er anrhydedd yn Adran Swoleg y Brifysgol. Efe yw'r tiwtor cydlynu ar gyfer Astudiaethau Amgylcheddol, Botaneg, a Chynaladwyedd.

Mae Michael yn gweithio gyda nifer o sefydliadau yn yr ardal leol, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae'n aelod o Bwyllgor Rheoli Geoparc newydd Fforest Fawr. Mae wedi ymwneud â gweithgarwch Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a'r Ganolfan Amgylcheddol. Mae hefyd yn aelod o Fforwm Amgylcheddol Abertawe, yn aelod o Fforwm Addysg Amgylcheddol Abertawe a'i grwp Addysg Uwch/ Addysg Bellach, ac yn islywydd ac ymddiriedolwr y Sefydliad Brenhinol yn Ne Cymru. Mae'n eistedd ar Bwyllgor Gwobrau Dysgu Byd-eang Cyfanfyd a NIACE Dysgu Cymru, yn aelod o'r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt lleol, ac yn aelod o Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent, ac mae wedi bod yn ymddiriedolwr i'r ddau yn y gorffennol.

Crynodeb o'r ddarlith: Bydd y ddarlith yn trafod yr anifeiliaid a'r planhigion sy'n byw ar lannau môr Prydain.

Cysylltwch â: I archebu lle neu am ragor o wybodaeth, galwch 01792 602211 neu anfonwch e-bost at: adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd y lleoliad ei hun yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.

Postiwyd yr eitem newyddion hon gan Katy Drane, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050, neu e-bost: k.drane@abertawe.ac.uk