Gwyddonwyr Chwaraeon yn helpu lledaenu Gwyddoniaeth ac Ymarfer ym maes y Bêl Hirgrwn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar ôl cyffro Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref rhwng timoedd Hemisffer y Gogledd a Hemisffer y De, mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi lansio rhwydwaith Rhyngwladol yn ymwneud ag astudiaethau gwyddonol o'r gêm.

Dr Stephen Mellalieu, o Ganolfan Technoleg a Meddygaeth Chwaraeon Gymhwysol (ASTEM) yn y Coleg Peirianneg yw un o aelodau sefydlu Rhwydwaith Gwyddoniaeth Rygbi'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB) a ddatgelwyd yng Nghynhadledd Comisiwn Meddygol yr IRB yn Nulyn.

Meddai Dr Mellalieu, "Mae Rhwydwaith Gwyddoniaeth Rygbi'r IRB yn rhwydwaith byd-eang o ymchwilwyr sy'n ymddiddori yng ngwyddoniaeth ac ymarfer y codau Rygbi. Nod y rhwydwaith hwn yw darparu fforwm rhyngwladol penodol sy'n dod ag arbenigedd ynghyd gan academyddion a gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'r codau i greu astudiaeth wyddonol ac i drosi gwybodaeth wyddonol yn ymarfer proffesiynol.

"I weithredu'r cydweithio rhyngwladol hwn ceir gwefan lle y gall academyddion a phobl broffesiynol sydd â diddordeb gofrestru a chymryd rhan mewn rhyngweithiadau a thrafodaethau ynghylch sawl agwedd o'r gêm megis dadansoddi gemau, biomecaneg, maeth, seicoleg, atal anafiadau a meddygaeth chwaraeon."

Ynghyd â Dr Mellalieu, mae aelod arall o'r Ganolfan Technoleg a Meddygaeth Chwaraeon Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Liam Kilduff, hefyd yn rhan fawr o'r rhwydwaith fel golygydd yr adran cryfder a phŵer. Mae'r wefan wedi'i datblygu mewn cydweithrediad ag Adran Hyfforddi a Meddygol yr IRB.

 Meddai Mark Harrington, Rheolwr Adran Hyfforddi a Meddygol yr IRB, "Mae gan yr IRB dros 100 o genhedloedd cyswllt a chenhedloedd sy'n aelodau llawn ac mae'r rhwydwaith Gwyddoniaeth Rygbi'n cynrychioli ffenomen fyd-eang wirioneddol sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer cyfnewid a throsglwyddo gwybodaeth ymysg ein cymuned rygbi."

Meddai’r Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Noel Thompson: "Mae datblygu'r fforwm rhwydweithio rhyngwladol hwn yn dangos bod gwyddonwyr chwaraeon Abertawe'n arwain y ffordd ar drosglwyddo a chyfnewid gwybodaeth mewn cydweithrediad â chyrff llywodraethu chwaraeon a sefydliadau chwaraeon proffesiynol a rhyngwladol."