Gweithdy Beijing-Abertawe ar Brosesau Stocastig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae grwp ymchwil y Theori Tebygolrwydd o Adran Fathemateg Prifysgol Abertawe wedi ymweld รข Phrifysgol Normal Beijing (BNU) ar gyfer Gweithdy Beijing-Abertawe cyntaf ar Brosesau Stocastig.

Beijing-Swansea Workshop BNU yw un o brifysgolion gorau Tsieina ac mae’n gartref i’r grwp theori tebygolrwydd mwyaf yn y wlad.

Mae’r grwp, a adwaenir fel “Y Ganolfan Ymchwil Stocastig”, yn cael ei arwain ar hyn o bryd gan yr Athro Feng-Yu Wang, sydd hefyd yn athro ymchwil yn Adran Fathemateg Prifysgol Abertawe.

Sefydlwyd y Ganolfan yn y 1960au gan yr Athrawon Shijian Yan a Zhikun Wang, ac fe’i sefydlwyd gan yr Athro Mu-Fa Chen fel un o’r grwpiau cryfach yn gweithio ar debygolrwydd yn y byd.

Mae’r Athro Mu-Fa Chen yn aelod o Academi Wyddoniaeth Tsieina ac mae hefyd yn aelod anrhydeddus Adran Fathemateg Abertawe.  

Hefyd mae gan Brifysgol Abertawe grwp ymchwil cryf yn gweithio ar y theori tebygolrwydd. Yn y ddau Adolygiad Rhyngwladol diwethaf o Fathemateg yn y DU, cydnabuwyd y gwaith hwn fel cyfrannwr sylweddol at statws blaenllaw’r DU yn fyd-eang mewn dadansoddi stocastig.

Mae gan y grwp gryfderau arbennig yn y theori anhafaleddau swyddogaethol – maes ymchwil yr Athro Wang – a dadansoddi prosesau Jump neu Lévy-type.                    

Ym mis Gorffennaf 2011, rhoddodd yr Athro Niels Jacob o grwp Abertawe gwrs i fyfyrwyr PhD yn BNU ac yn ystod yr ymweliad hwn, cytunwyd y byddai’r ddwy adran yn cychwyn cydweithrediad hirdymor, yn dechrau gyda dau weithdy ar brosesau stocastig

Cynhaliwyd y cyntaf o’r gweithdai hyn yn Beijing fis diwethaf ac roedd yr ymweliad yn cynnwys gweithdy pedwar diwrnod llwyddiannus iawn, lle gwnaeth aelodau o’r ddau grwp a’u cydweithwyr gyflwyno peth o’u gwaith.

Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i aelodau staff Abertawe gwrdd â nifer o gyn-fyfyrwyr sy’n dilyn gyrfaoedd llwyddiannus yn Tsieina.

Cynhelir ail weithdy ar brosesau stocastig ym Mhrifysgol Abertawe y mis Hydref hwn ac mae rhagor o brosiectau cydweithrediadol wrthi’n cael eu trafod.