Ffyngau yn dangos potensial cryf i reoli’r pla Jac y baglau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi dangos bod ffyngau yn gallu helpu rheoli plâu sy’n niweidio cnydau amaethyddol a choed a bod ganddynt effaith bositif ar ffermio a’r amgylchedd ar draws Ewrop.

Mae ymchwil gan Dr Minshad Ansari a’r Athro Tariq Butt o Grŵp Bio-reoli a Chynnyrch Naturiol y Brifysgol wedi canolbwyntio ar larfae Jac y baglau (Tipula paludosa), sy’n achosi niwed sylweddol i gnydau ac i goed ynghyd.

Crane fly larva

Mae’r larfae, a adnabyddir fel ‘leatherjackets’ yn achosi niwed i borfeydd gwair a chnydau, gan gynnwys cnydau grawnfwyd, cnwd bresych a letys, a hefyd yn niweidio glasbrennau mewn meithrinfeydd fforestydd.  Ar hyn o bryd rheolir y larfae gan ddefnyddio plaleiddiad cemegol.

Serch hynny, yn unol â deddfwriaeth UE newydd1 ynghylch cynnyrch diogelu planhigion, mae’n rhaid i ffermwyr ddefnyddio rhaglenni rheoli plâu sy’n sensitif yn amgylcheddol, ac sy’n defnyddio dulliau di-gemegol o reoli plâu lle bo’n bosib.

Meddai’r Athro Butt a arweiniodd y grŵp ymchwil: “Mae’r tîm ymchwil bellach wedi dod ar draws rhywogaethau arbennig o ffyngau a all o bosib rheoli plâu Jac y baglau, a helpu i leihau’r defnydd o blaleiddiad cemegol a galluogi strategaethau sy’n fwy ecogyfeillgar ar gyfer rheoli plâu. Mae nifer o blaleiddiaid bellach yn cael eu diddymu’n raddol oherwydd eu heffaith ar ecosystemau ehangach, felly ni all y datblygiad hwn wedi digwydd ar gyfnod gwell.”

Cynhaliwyd profion labordai a phrofion tŷ gwydr dros gyfnodau o bedair wythnos ac wyth wythnos i archwilio pa mor effeithiol yr oedd rhywogaethau gwahanol o ffyngau, pryfleiddiad cemegol clorpyrifos ac abwydod nematod (Heterorhabditis bacteriophora) wrth reoli larfau Jac y baglau.

Meddai Dr Ansari: “Er i’r profion ddangos bod y driniaeth bryfleiddiad yn 100% effeithiol ar ôl pedair wythnos, darganfuwyd hefyd bod rhywogaeth arbennig o ffwng yr un mor effeithiol.

“Edrychodd y canlyniadau ar 17 rhywogaeth o ffwng ‘entomopathogenig’, sef fwng sy’n bwydo ar larfae Jac y baglau, a dangoswyd bod eu heffaith ar wahanol gamau datblygol Jac y baglau’n amrywio o ddim effaith i effaith niweidiol tu hwnt.

“Darganfu ymchwilwyr mai rhywogaeth V1005 y ffwng Metarhizium robertsii a wahanwyd yn wreiddiol o larfae Jac y baglau a heintiwyd yn naturiol oedd fwyaf effeithiol, gan achosi cyfradd farwolaeth o 100% ymhlith larfae yn y pedair wythnos ar ôl ei ddefnyddio.”

Darganfu’r tîm ymchwil hefyd bod abwydod nematod yn achosi cyfradd farwolaeth o 60% ar bob cam datblygol Jac y baglau ar ôl cyfnod o wyth wythnos a arweiniodd ymchwilwyr i awgrymu y gellir gwella effeithiolrwydd y nematod pe byddant yn eu cyfuno â thriniaeth ffwngaidd.

Mae hefyd yn bosib y gall rhywogaeth gymharol gryf o ffwng fod yn ddigon i reoli Jac y baglau, a phlâu eraill o bosib gan gynnwys y chwilen Mehefin a’r gwyfyn gwinwydden ddu.

Meddai Dr Ansari: “Mae canlyniadau’r astudiaeth hon yn dynodi bod gan peth ffwng, yn enwedig Metarhizium robertsii rhywogaeth V1005, botensial i rheoli’r pla hwn heb gemegion ac rydym yn edrych ymlaen bellach at ddadansoddi canlyniadau y bydd ein hymchwil dan amgylchiadau maes yn eu dangos gyda’r gobaith y byddwn yn gallu cadarnhau bod y ffwng yn ddull effeithiol o fio-reoli.”

infected crane fly larvae

Mae’r ymchwil hon bellach wedi’i chyhoeddi yn  Science for Environment Policy: European Commission DG Environment News Alert Service,