Fforwm Ymchwil Prifysgol Abertawe Darlith Nadolig Cemeg a Golau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Fforwm Ymchwil Prifysgol Abertawe yn cynnal darlith gyhoeddus rhad ac am ddim. Traddodir y ddarlith gan Dr Peter Douglas o Brifysgol Abertawe, a'i theitl yw Cemeg a Golau.

Dyddiad: Mercher, 12 Rhagfyr

Amser: 6.30pm

Lleoliad: Darlithfa Faraday, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb

Crynodeb o'r digwyddiad
Bydd y ddarlith yn amlygu pwysigrwydd ffotocemeg i'r byd, yn cynnwys dros dri deg o arddangosiadau, ac yn cael ei rhannu'n dair rhan.
(i) O le y daw golau?
Mae'r rhan hon yn dangos sut y gellir cynhyrchu golau o drydan, o wres, neu o gemegau, a sut y gellir cynhyrchu golau gweladwy o olau uwchfioled, h.y. fflworoleuedd a ffosfforedd.
(ii) Sut yr ydym yn defnyddio golau mewn technoleg ac mewn bywyd beunyddiol
Yn y rhan hon, dangosir sut y defnyddir golau mewn technolegau bob dydd.  Mae hyn yn cynnwys ffotograffiaeth, electroneg, adloniant, plastigau, meddygaeth, a diogelwch.
(iii) Sut y gellid defnyddio golau yn y dyfodol i ddatrys dau o'r problemau mwyaf sy'n ein hwynebu, sef darparu dŵr glân, a chynhyrchu ynni glân.
Bydd y ddarlith yn dirwyn i ben gydag arddangosiadau'n dangos sut y gellir defnyddio golau i buro dŵr, a sut y gellir defnyddio golau'r haul yn ffynhonnell ynni delfrydol a di-lygredd, trwy ei droi'n drydan neu'n danwydd cemegol.

I archebu tocynnau am ddim ar gyfer y digwyddiad, ewch i: http://chemistryandlight.eventbrite.co.uk