Eisiau bod yn nyrs, neu’n fydwraig?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal dau ddigwyddiad yng Ngorllewin Cymru ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb ym maes nyrsio a bydwreigiaeth

Dewch draw i’r sesiynau ‘Galw Heibio’ er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am y meysydd yma.

Mae ein digwyddiadau yng Ngorllewin Cymru ar gyfer rheiny sy’n dymuno astudio ym Mhrifysgol Abertawe, ond wnaeth fethu a mynychu diwrnod agored ar gampws y Brifysgol, neu i unrhyw un sydd ag unrhyw ymholiad neu sy’n dymuno gofyn cwestiwn.

Nid oes angen archebu lle, galwch heibio un o’n digwyddiadau yng Ngorllewin Cymru er mwyn cael sgwrs un i un gyda’r tiwtoriaid ac arbenigwyr.

Dyma’r manteision posibl os ydych yn cyflwyno cais i ddechrau astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn 2013:

• Dim ffioedd cwrs/dysgu

• Bwrsariaeth ar sail prawf moddion, a grant heb fod angen prawf moddion

• Cymorth ychwanegol o bosibl i fyfyrwyr sydd â phlant, neu â phobl eraill sy’n  

  dibynnu arnynt, yn ogystal â chostau teithio ar gyfer lleoliadau

• Cyfleodd astudio tramor

• Cyflog cychwynnol dros £20,000

• Astudio yn Abertawe neu yng Nghaerfyrddin

 

Digwyddiad Aberystwyth

NYRSIO YN UNIG

Dydd Mercher 31 Hydref

Llyfrgell, Ysbyty Cyffredinol Bronglais,

Aberystwyth, SY23 1ER

10.30yb – 2.30yp

 

Digwyddiad Caerfyrddin

NYRSIO A BYDWREIGIAETH

Dydd Gwener 16 Tachwedd

Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job,

Caerfyrddin, SA31 3HB

10yb – 3yp

Am fwy o wybodaeth ebostiwch chhsadmissions@swansea.ac.uk