Discovery yn derbyn clod gan grŵp Cysylltiadau Cymunedol Cymru-Affrica WCVA

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Discovery, elusen sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, wedi derbyn clod am ei chysylltiadau partneriaeth Cymru-Affrica gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Dros y ddwy flynedd diwethaf bu Discovery yn datblygu’r bartneriaeth Abertawe-Siavonga. Mae’r prosiect yn fodel ardderchog o gysylltiad daearyddol, gan ganiatáu i bobl yn Abertawe a Siavonga archwilio ffyrdd gwahanol o fyw ac agweddau at brofiadau a rennir, ond sydd hefyd yn brofiadau gwahanol, o fywyd teuluol, iechyd, yr amgylchedd, maeth a thlodi.

Gwnaeth un ar ddeg o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ymweld â Siavonga mis Gorffennaf diwethaf i weithio wrth ochr tîm o wirfoddolwyr o Grŵp Maeth Siavonga. Roedd y myfyrwyr hyn yn rhan o raglen codi arian ddwys yn ogystal â rhoi cyflwyniadau a gwneud hyfforddiant perthnasol. Yn Siavonga gwnaeth y myfyrwyr gymryd rhan mewn rhaglen ddwys o weithgareddau, a oedd yn cynnwys darparu gweithdai ar iechyd ac amaethyddiaeth i rai o fenywod y pentref yn ogystal â gêmau addysgol yn y cartref plant amddifaid.

Ymhlith y gweithgareddau eraill oedd adeiladu maes chwarae ond y rhan fwyaf trawiadol o’r prosiect hwn oedd y cyfnewidiadau diwylliannol a ddigwyddodd rhwng y gwirfoddolwyr o Abertawe a Grŵp Maeth Siavonga, yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cefnogi ac yn annog ei gilydd trwy’r heriau a’r cyflawniadau sydd ynghlwm wrth wirfoddoli. Bu datblygu perthnasoedd a rhannu profiad byw bob dydd yn enghraifft wych o ddinasyddiaeth fyd-eang a fydd o fantais i’r holl bobl ifanc ar gyfer y dyfodol.  

Cafodd y prosiect effaith fawr ar y myfyrwyr eu hunain – gyda rhai ohonynt yn gwneud penderfyniadau gyrfa a bywyd yn gysylltiedig â’r profiad hwnnw, ac eraill yn nodi newid yn eu hagweddau at bobl eraill a bywyd yn y DU. Cafodd y myfyrwyr lefel uchel iawn o ymreolaeth a thrwy hyn gwnaethant gefnogi, annog a galluogi’r gwirfoddolwyr Affricanaidd i reoli eu rôl wirfoddoli eu hunain ac i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae’r gwirfoddolwyr Siavonga bellach wedi ffurfio eu pwyllgor eu hunain ac maent yn parhau â’u prosiectau gwirfoddoli yn y cartref plant amddifaid.  Maent i gyd wedi elwa o wneud ffrindiau am oes ymhlith eu hunain yn ogystal ag yn Affrica.

Dywedodd Gwirfoddolwr Discovery Tom Lloyd: "Bydd yr ymweliad â Siavonga yn aros gyda mi am byth, y chwerthin, y cyffro, a gwaith caled a brwdfrydedd pobl Abertawe a Siavonga a oedd yn ANHYGOEL – edrychaf ymlaen at ymweliadau yn y dyfodol"

Roedd y menywod a’r plant yn y pentrefi yn awyddus i rannu eu sgiliau a'u diwylliant. Bu’r myfyrwyr yn cynnal gweithdai a grwpiau trafod yn seiliedig ar geisiadau gan y pentrefwyr yn ogystal â dweud wrthynt am Abertawe. Penderfynodd rhai o fenywod y pentref sefydlu tîm pêl-rwyd a herio pentrefi eraill gan ddefnyddio peli pêl-rwyd a bibiau a gafodd eu rhoddi, a bu’r gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio er mwyn darparu cae pêl-droed ar gyfer pentref arall.

Mae'r prosiect yn parhau i sefydlu cysylltiadau rhwng Abertawe a Siavonga ac mae ail grŵp o fyfyrwyr yn Zambia ar hyn o bryd.

Discovery  

Photo caption: Jane Davidson, Pennaeth Sefydliad INSPIRE yn Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant a Wyn Griffiths, Cadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn cyflwyno tîm Discovery  xxxxx a xxxxxx) â’i harwydd ffordd, i ddathlu a hyrwyddo cysylltiadau Abertawe ag Affrica.