Deall y Profiad Ymfudo’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd cynhadledd yn canolbwyntio ar y thema Deall y Profiad Ymfudo yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Ymchwil Polisi Ymfudo Prifysgol Abertawe (CMPR).

 Bydd y gynhadledd, a gynhelir ar 25ain-26ain Mehefin, yn galluogi myfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio ymfudo a phrofiadau ymfudwyr i archwilio themâu’r seminar mewn mwy o fanylder ac arddangos eu gwaith.

Meddai’r Athro Heaven Crawley, Cyfarwyddwr CMPR yn y Coleg Gwyddoniaeth: “Rydw i’n gobeithio y bydd y gynhadledd hefyd yn cyfrannu at drafodaethau academaidd a pholisi ehangach, gan gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r profiad ymfudo a phwysigrwydd hyn o ran creu polisïau a dadleuon gwleidyddol.

“Rydw i hefyd yn gwahodd myfyrwyr ôl-raddedig i gyflwyno papurau ar bob agwedd o’r profiad ymfudo. Mae croeso i fyfyrwyr ôl-raddedig ym mhob cyfnod o’u hymchwil, ar draws pob disgyblaeth academaidd gyflwyno papurau a chroesewir cyfraniadau rhyngddisgyblaethol yn arbennig.”

Themâu’r gynhadledd yw:

• Beth yw’r ‘profiad ymfudo’? Damcaniaethu’r cysyniad

• Materion Methodoleg wrth ymchwilio’r profiad ymfudo

• Rôl rhyw, oed, dosbarth a hil wrth lunio’r ‘profiad ymfudo’

• Y celfyddydau fel offer ar gyfer deall profiad ymfudwyr

• Gwleidyddiaeth cynrychioli

• Sut y gall y profiad ymfudo hysbysu’r broses creu polisïau

• Gwahanol agweddau ar y profiad ymfudo, er enghraifft, y daith prosesau mewnfudo, bod dan gadwad ac integreiddio