Darlith Gyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe yn Datgelu Rôl Iaith mewn Ymwneud Gwleidyddol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr Athro Nuria Lorenzo-Dus yn traddodi ei darlith gyhoeddus gyntaf, wedi'i chyflwyno gan Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, ar rôl iaith mewn ymwneud gwleidyddol.

Teitl: ‘GET INVOLVED!: Language and Political Engagement in a New Media Ecology’

Siaradwr: Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus o Brifysgol Abertawe

Dyddiad: Dydd Iau, 6 Rhagfyr 2012

Amser: Bydd lluniaeth ysgafn ar gael o 5.15pm, a bydd y ddarlith yn cychwyn am 6pm.

Lleoliad: Darlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb

Crynodeb o'r ddarlith: Mae'r ddarlith hon yn rhan o gyfres darlithoedd cyhoeddus Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, a noddir y digwyddiad gan y Ganolfan Ymchwil Iaith ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae'r ganran warthus o isel a bleidleisiodd yn yr etholiadau diweddar ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu yn dangos lefel isel o ymwneud gwleidyddol gan y boblogaeth yn yr oes sydd ohoni.  Mae'n rhaid i lywodraethau a'r cyfryngau weithio'n gynyddol galed, ac mewn modd mwy arloesol, i ymgysylltu â dinasyddion ar draws ystod gynyddol o lwyfannau. 

Mae iaith yn elfen allweddol yn yr ymdrech hon. 

Mae'r ddarlith hon yn trafod y berthynas rhwng iaith ac ymwneud gwleidyddol mewn tri chyd-destun:

-          Strategaethau ieithyddol mewn ymgyrchoedd e-bost gyda'r bwriad o gysylltu dinasyddion ag arweinwyr gwleidyddol, gan gynnwys personoli ac adeiladu undod

-          Arferion darlledu sydd wedi gosod dinasyddion mewn sefyllfa i gyflawni'r rôl wyliadwrus a gyflawnwyd yn draddodiadol gan ohebwyr

-          Strategaethau anfoesgarwch ar-lein a disgwyliadau'r cyhoedd am gymdeithasoldeb ar-lein wrth i ddinasyddion ymwneud yn wleidyddol mewn ffyrdd ymosodol a hunanaddoliadol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol

Bydd yr Athro Lorenzo-Dus yn egluro pob enghraifft trwy dynnu ar ystod o gyfryngau (gwefannau rhwydweithio cymdeithasol, e-byst, newyddion teledu, a chyfweliadau), cyd-destunau gwleidyddol (ymgyrchoedd etholiadol a dinesig), gwledydd (y DU, yr UDA, Sbaen, ac America Lladin), a heriau cymdeithasol (anghwrteisi a thrais domestig). 

Dywedodd yr Athro Chris Williams, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau: "Mae Nuria Lorenzo-Dus ar flaen y gad o ran ymchwil cyfoes i'r cydberthynas rhwng iaith a thrafod gwleidyddol.  Mae ei phersbectif rhyngwladol, a'r ffaith ei bod yn gyfarwydd â'r technolegau diweddaraf, yn gwarantu y bydd ei darlith yn addysgu, yn goleuo, ac yn difyrru fel ei gilydd."

Manylion Cyswllt: Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Sefydliad, trwy e-bost ar riah@abertawe.ac.uk,  neu trwy ffonio 01792 295190.