Cynllun newydd i helpu i gryfhau cyfleoedd cyflogaeth i fyfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwyr y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe’n gweithio gyda sefydliadau treftadaeth cenedlaethol a rhyngwladol i ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr.

Bydd Canolfan y Graddedigion yn Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH), Prifysgol Abertawe’n cynnig ystod o interniaethau a lleoliadau cyfnewid gwybodaeth gyda sefydliadau treftadaeth cenedlaethol a rhyngwladol i fyfyrwyr y Celfyddydau a’r Dyniaethau. 

Wedi’i hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), mae’r rhaglen o weithdai, dosbarthiadau meistr a lleoliadau gwaith â thema treftadaeth sy’n dechrau ym mis Medi 2012 ar agor i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac ymchwilwyr yng nghyfnodau cynnar yn eu gyrfaoedd ym Mhrifysgol Abertawe a Sefydliadau Addysg Uwch eraill yng Nghymru.

Mae nifer o sefydliadau treftadaeth uchel eu proffil, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent yn cefnogi’r prosiect.

Mae cyllid hefyd wedi’i gadarnhau ar gyfer ‘Rhaglen Prentis Treftadaeth’, sydd wedi’i seilio ar raglen deledu boblogaidd y BBC.

Bydd y Rhaglen Brentis yn dod â myfyrwyr ymchwil ynghyd o ledled y DU gan roi’r cyfle iddynt weithio ar y prosiect Cu@Swansea, prosiect ailddatblygu treftadaeth mawr ym Mhrifysgol Abertawe sydd wrthi’n cael ei gynnal ar safle  hen weithfeydd copr Hafod a arweinir gan yr Athro Huw Bowen.

Mae hefyd gyfleoedd ymhellach i ffwrdd gyda’r cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn a helpu datblygu ail brosiect treftadaeth mawr. Enw’r ail brosiect yw Prosiect Cadwraeth De Asasif yn yr Aifft– gydag interniaethau estynedig ar y safle yn ystod haf 2013.

Fel rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ‘Hen Thebes a’i Necropolis’, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ailddarganfod tri bedd mewn temlau o 25-26ain frenhinlin yr Aifft. Mae’r prosiect wedi elwa o’r rhaglen Pontio’r Bylchau a ariannir gan EPSRC gyda dyfarniad sy’n galluogi defnyddio delweddu geoffisegol newydd i archwilio’r safle unigryw.

Meddai cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yr Athro Chris Williams, “Mae hwn yn gyfle cyffrous i ôl-raddedigion a ymchwilwyr yng nghyfnod cynnar eu gyrfaoedd i roi hwb i’w cyflogadwyedd, i ennill sgiliau newydd ac i archwilio sut y gall eu harbenigedd academaidd cael ei drosi’n cyfleoedd ar gyfer cyflogadwyedd yn y sector dreftadaeth ehangach.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y rhaglen dreftadaeth hon a ariannir gan AHRC ar wefan RIAH: www.swan.ac.uk/riah.