Cymrodoriaeth arbennig i Athro o Brifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Athro o Brifysgol Abertawe wedi derbyn un o gymrodoriaethau cyntaf yr Academi Frenhinol Peirianneg.

Mae’r Athro Rhodri Williams o Goleg Peirianneg y Brifysgol wedi derbyn £85,000 gan yr Academi er mwyn datblygu prosiect ymchwil academaidd dros y deuddeg mis nesaf.

Rhodri Williams

Ei fwriad yw datblygu prawf newydd i ddod o hyd i abnormaleddau ceulo’r gwaed. Gall abnormaleddau ceulo’r gwaed arwain at farwolaeth ond mae’n bur anodd dod o hyd iddynt trwy gyfrwng profion confensiynol.

Bydd yr Athro Williams yn derbyn hyfforddiant ac yn cael ei fentora gan Gymrodorion yr Academi sydd â phrofiad ym maes entrepreneuriaeth yn ogystal â chael mynediad at gymorth gan angylion busnes a chyfalafwyr menter.

Mae’r Athro Williams wedi creu cwmni deillio ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn elwa’n fasnachol ar ddyfeisio prawf newydd fydd yn darparu bioddangosyddion ag abnormaleddau ceulo’r gwaed.

Meddai’r Athro Rhodri Williams: ‘‘Braint ac anrhydedd yw derbyn y wobr hon gan yr Academi Frenhinol Peirianneg. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar y gwaith a bydd y cymorth ariannol a’r hyfforddiant o fudd mawr yn ystod y deuddeg mis nesaf.’’