Bydd cymdeithas Ddaearegwyr de Cymru yn cynnal Darlith Goffa Douglas Bassett ym Mhrifysgol Abertawe
Teitl y Ddarlith: Adam i Douglas: Taith hanesyddol ddaearyddol trwy ogledd Cymru
Siaradwr: Yr Athro Michael Bassett o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
Dyddiad: Sadwrn 17 Tachwedd
Amser: 11yb
Lleoliad: Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe
Mynediad: Am ddim a chroeso i bawb
Bydd darlith Goffa Douglas Bassett yn cael ei chynnal er cof am Douglas Bassett, cyn Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Cheidwad Daeareg, fu farw yn Nhachwedd 2009.
Ef oedd un o aelodau gwreiddiol Cymdeithas Ddaearegwyr de Cymru, sydd bellach yn 54 mlwydd oed. Roedd yn adnabyddus ar draws de Cymru am ei allu i ennyn diddordeb pobl ym maes daeareg.
Bydd y siaradwr, Michael Bassett, sydd hefyd yn gyn Geidwad Daeareg yn yr Amgueddfa Genedlaethol, yn siarad am rôl allweddol gogledd Cymru yn natblygiad daeareg.
Mae Cymdeithas Ddaearegwyr de Cymru yn cynnal sesiynau trafod, teithiau maes a gweithgareddau eraill wedi eu hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb yn y Ddaear a’i hanes. Mae aelodaeth yn agored i bawb yn ne Cymru ond mae croeso i’r rhai hynny nad ydynt yn aelodau fynychu unrhyw ddigwyddiadau.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, cysyllter â Dr Geraint Owen ar g.owen@swansea.ac.uk neu 01792 295141.
- Dydd Mercher 14 Tachwedd 2012 00.00 GMT
- Dydd Mercher 14 Tachwedd 2012 15.37 GMT
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049