Cyfrifiadureg ar Waith: Ffair Arddangos Prosiectau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y ffair arddangos prosiectau hon ar ddydd Mawrth, Mai 1, yn gyfle i ddod o hyd i wybodaeth am y prosiectau technoleg arloesol y mae myfyrwyr Cyfrifiadureg Prifysgol Abertawe wedi’u cwblhau yn ystod eu hastudiaethau.

Dyddiad: Dydd Mawrth, Mai 1, 2012

Amser:
5.30pm – Cyrraedd a Chroeso
6pm tan 8pm – Ffair Prosiectau a Rhwydweithio
8pm – Gorffen

Lleoliad: Darlithfa Sifil a Chyfrifiadurol, Adeilad Talbot, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim a chroeso i bawb. Bydd cinio bwffe yn cael ei ddarparu.



Yn y ffair arddangos prosiectau hon bydd myfyrwyr Cyfrifiadureg MSc a MEng yn arddangos eu gwaith prosiect ar ystod o destunau, drwy gyfrwng posteri ac arddangosiadau byw.

O ddatblygu meddalwedd i raffeg cyfrifiaduron, a thechnolegau cyfathrebu i ryngwynebau rhyngweithiol y dyfodol, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i weld rhai o’r prosiectau ymchwil arloesol sy’n cael eu cynhyrchu gan fyfyrwyr Cyfrifiadureg Prifysgol Abertawe.

Bydd cyfle hefyd i rwydweithio a chyfle i ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglyn â Phrosiectau Datblygu Myfyrwyr Cynghrair Meddalwedd Cymru, a’r Lleoliadau Gwaith ITWales i Fyfyrwyr a Graddedigion sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe