Cyfrannu at ddatblygiad system gyfreithiol i Gymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr Athro Gwynedd Parry o Brifysgol Abertawe yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru brynhawn Llun 14eg Mai 2012.

Mae’r Athro Gwynedd Parry yn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel Dda ac yn Athro Cyfraith a Hanes Cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hefyd yn aelod o Banel Cynghori Comisiynydd Iaith Cymru.

Sefydlwyd y pwyllgor arbennig hwn ym Mehefin 2011, a’i gylch gwaith yw ystyried unrhyw faterion yn ymwneud â deddfwriaeth a gyfeirir ato gan Bwyllgor Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwynedd Parry

Y pwnc o dan sylw yn y cyfarfod fydd datblygiad awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Mae’r pwnc arbennig yma wedi dod yn fater o ddiddordeb ers canlyniad y refferendwm fis Mawrth y llynedd.

Mae’r Athro Gwynedd Parry eisoes wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r pwyllgor yn y Gymraeg ar y mater a bydd yn rhoi tystiolaeth ar lafar brynhawn Llun nesaf am 2.30yp.