Canolfan chwaraeon traeth a dwr yn agor ei drysau i fusnes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd pobl yn troi eu pennau 360 gradd ar ddydd Sadwrn 6ed a dydd Sul 7fed Hydref pan fydd y Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 yn agor ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

360 brand logo

Bydd y cyfleuster newydd sbon, a weithredir mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Bay Leisure, yn gwella’r bae yn sylweddol ac yn helpu’r ardal i wireddu ei photensial fel lleoliad o safon fyd-eang ar gyfer chwaraeon traeth a dŵr. Gweledigaeth weithredol 360 yw gwella hygyrchedd a chynwysoldeb drwy chwaraeon ac bydd y penwythnos agoriadol yn dangos yr holl weithgareddau sydd ar gael yn y Ganolfan ac yn rhoi cyfle i bawb roi cynnig ar chwaraeon a phrofiadau newydd sbon am ddim.

Bydd y penwythnos yn cynnwys sesiynau blas ‘Rhowch Gynnig Arni’ am ddim i blant ac oedolion mewn amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau gan gynnwys pêl-foli, caiacio, padl-byrddio a syrffio barcud. 

Hefyd, bydd y Ganolfan yn cynnal sesiynau mwy datblygedig mewn chwaraeon megis syrffio barcud, gan ddarparu cyfleuster hanfodol hefyd a fydd yn cynnwys cawodydd a loceri ar gyfer pobl sy’n defnyddio’r traeth a’r dŵr yn annibynnol. 

Yng nghanol y cyfleuster newydd ceir caffi bar wedi’i drwyddedu’n llawn a fydd ar agor 364 diwrnod y dydd ac yn darparu cyfranogwyr a’r gymuned ehangach ag amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd yn y lleoliad unigryw hwn. 

Mae’r gwaith o adeiladu’r ganolfan gwerth £1.4m wedi’i rheoli gan Gyngor Abertawe ac mae wedi’i gefni gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Croeso Cymru a’r rhaglen Ardal Adfywio.

Meddai Kate Hannington, Rheolwr Canolfan 360, “Mae agor 360 yn ddiwrnod gwych i Abertawe a’r ardal gyfagos, yn darparu’r gymuned ac ymwelwyr â chyfleuster newydd gwych yng nghanol adnodd naturiol syfrdanol. Mae ein rhaglen weithgareddau gychwynnol wedi’i datblygu i wneud yn siŵr bod pawb, beth bynnag eu hoedran yn cymryd rhan ac yn dod yn fwy actif. Bydd nifer o bobl wedi gweld y gwaith o adeiladu adeilad 360 yn cael ei gynnal dros yr wyth mis diwethaf ac wedi meddwl beth fyddai ei phwrpas terfynol. Rydym am i bawb ddod i lawr ar y penwythnos agoriadol i weld dros ei hunain.”

Meddai'r Canghellor Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Adfywio: “Mae Bae Abertawe wastad wedi mwynhau gosodiad anhygoel ond bydd y ganolfan hon yn sefydlu enw da Abertawe ar gyfer chwaraeon dŵr ymhellach drwy fanteisio ar ei lleoliad arfordirol syfrdanol.

“Bydd y cyfleuster newydd yn helpu adfywio treftadaeth forwrol gyfoethog yr ardal ac yn ehangu ymhellach ar statws Abertawe fel dinas o ragoriaeth mewn chwaraeon lle y mae gweithgareddau arfordirol o’r ansawdd uchaf ar gael i bobl leol ac i ymwelwyr.

“Bydd y ganolfan newydd yn helpu rhoi hwb i’r economi lleol drwy greu hyd yn oed rhagor o fywiogrwydd ar hyd ein promenâd a’r bae.

Mae’r ganolfan yn rhan o brosiect gwerth miliynau o bunnoedd sydd wedi’i fwriadau i wneud Bae Abertawe’n Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Chwaraeon Dŵr.

Mae agweddau eraill ar y cynllun cyfan yn cynnwys sefydlu pontŵn newydd ym Marina Abertawe, amnewid adeilad presennol y Cyngor yng Nghraig Knab ac adfer Olga, llong hwylio sianel Bryste hanesyddol Amgueddfa Abertawe a adeiladwyd ym 1909.

Caiff holl agweddau’r prosiect cyfan eu lansio’n swyddogol tua diwedd mis Hydref.