Canolbwyntio ar waith copr Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gwyliwch raglen Time Team ar Sianel 4 fydd yn canolbwyntio ar rôl Abertawe fel canolfan ddiwydiant copr byd eang.

Mae’r tîm, o dan arweinyddiaeth Tony Robinson, yn dadorchuddio cynnydd Abertawe i amlygrwydd fel Copperopolis, canolfan ddiwydiant byd-eang. Maent yn edrych ar weithfeydd enwog White Rocks, Hafod a cheisio datguddio olion y pwerdy nerthol, yn ogystal â bywydau y rheiny fu’n gweithio yno.

Mi wnaeth rhai o arbenigwyr Adran Hanes a Chlasuron Prifysgol Abertawe weithio’n agos gyda thîm Time Team ar y rhaglen, a’u cynorthwyo i ddod â hanes Abertawe yn fyw i’r gynulleidfa.