Caffe Gwyddoniaeth Abertawe mis Chwefror - Bywyd yn y Bydysawd, cyflwyniad i astrobioleg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffe Gwyddoniaeth Abertawe'n cynnig cyfle i chi ddarganfod mwy am feysydd gwyddoniaeth newydd, cyffrous, a chyfredol. Gyda'r bwriad o fod yn anffurfiol ac yn ddiddan, cynhelir y caffe fel arfer ar ddydd Mercher olaf bob mis yng Nghanolfan Dylan Thomas. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae'r darlithoedd yn dechrau am 7.30pm.

Teitl: Bywyd yn y Bydysawd, cyflwyniad i astrobioleg

Siaradwr: Mike Edmunds, Athro Emeritws Astroffiseg, Prifysgol Caerdydd; trefnwyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol


Dyddiad: Mercher 29ain Chwefror 2012

Amser: 7.30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Yn rhad ac am ddim, croeso i bawb


Crynodeb o'r digwyddiad: Bydd yr Athro Mike Edmunds yn adolygu'r llif diweddar o dystiolaeth arsylwadol am fodolaeth systemau planedau o gwmpas sêr eraill, ac yn amcangyfrif nifer tebygol y planedau yn y Bydysawd. Yn seiliedig ar ddisgrifiad byr o fywyd ar y Ddaear, byddwn wedyn yn ceisio cytuno diffiniad "bywyd", a thrafod lle gall bywyd fodoli yng Nghysawd yr Haul neu mewn systemau eraill. Amlygir y problemau allweddol, gan ymestyn hynny i drafod y cwestiwn anodd am y posibiliad o fywyd deallusol rhywle arall yng ngofod neu amser.

Postiwyd yr eitem newyddion hon ar gyfer Caffe Gwyddoniaeth Abertawe gan Katy Drane, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050, neu e-bost: k.drane@abertawe.ac.uk