Athro wedi’i ethol yn Gymrawd Cyswllt AIAA

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi’i ethol yn gymrawd cyswllt yn Sefydliad Awyrennaeth ac Astronoteg America (AIAA) sef y prif gymdeithas i beirianwyr a gwyddonwyr awyrofod.

Professor Sondipon Adhikari Mae’r Athro Sondipon Adhikari, Cadeirydd Peirianneg Awyrofod yn y Coleg Peirianneg ymhlith y ddau gymrawd a etholwyd eleni o’r DU. I gael ei ddewis i fod yn Gymrawd Cyswllt, rhaid i’r unigolyn fod yn uwch aelod o AIAA gydag o leiaf deuddeg blynedd o brofiad proffesiynol, a rhaid i’r unigolyn hefyd gael ei gymeradwyo gan o leiaf tri Chymrawd Cyswllt presennol.

Ymunodd yr Athro Adhikari â’r Coleg Peirianneg yn 2007. Ar hyn o bryd fe yw daliwr gwobr deilyngdod ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol (2010-2015). Mae ei feysydd ymchwil yn amlddisgyblaethol o ran eu natur ac yn cynnwys meintioliad ansicrwydd mewn mecaneg gyfrifiadurol, bio-mecaneg a nanomecaneg (nanotiwbiau, graffin, synwyryddion nano-bio), dynameg systemau cymhleth, problemau gwrthdaro ar gyfer dynameg linellog ac an-linellog a chasglu ynni dirgrynol.

Mae wedi cyhoeddi mwy na 160 o gyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a mwy na 100 o bapurau cynhadledd yn y meysydd hyn ac mae wedi gwneud cyfraniadau sylweddol ym maes amlddisgyblaethol cyffredinol mecaneg peirianneg tebygolrwydd. Mae’n aelod o Bwyllgor Technegol Dulliau Amhenderfyniadol yr AIAA (NDA-TC).

Wrth siarad am y pleser o gael ei ddewis yn Gymrawd Cyswllt yr AIAA, meddai’r Athro Adhikari: “Mae’n anrhydedd mawr ac rwyf yn hynod falch o gael fy ethol yn Gymrawd Cyswllt tramor yr AIAA. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r gwaith ym maes peirianneg awyrofod sy’n cael ei wneud yn y Coleg Peirianneg.”