Archwilio Enigma Seiberderfysgaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Beth yn union yw seiberderfysgaeth, pa mor berthnasol yw ei bygythiad, a ydyw erioed wedi digwydd a sut y dylwn ymateb i’r bygythiad y mae’n ei gyflwyno – dyma gwestiynau a fydd yn cael eu harchwilio mewn gweithdy a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe!

Ar 13/14 Medi cynhelir dau weithdy cyntaf 2012/13 yn y Brifysgol, gan dîm prosiect seiberderfysgaeth Prifysgol Abertawe. Bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr o Awstralia, Iwerddon a’r DU yn ogystal ag academyddion yn Abertawe.

Meddai Stuart Macdonald, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae seiberderfysgaeth yn debygol o fod yn gysyniad cyfarwydd ond amwys i nifer o bobl. Er bod y term wedi bodoli ers rhyw ugain mlynedd bellach, does dim consensws o ran yr hyn y mae’n cyfeirio ato, pa mor berthnasol yw’r bygythiad y mae’n ei gyflwyno a sut y dylai gwladwriaethau ac eraill ymateb iddi (os o gwbl). Ceir anghytuno hyd yn oed ynghylch a yw seiberderfysgaeth wedi digwydd erioed ai peidio!

“Mewn ymgais i ddechrau darparu atebion gwnaethom sefydlu rhwydwaith ymchwil amlddisgyblaethol seiberderfysgaeth yn 2011, yn dod ag arbenigedd yn y gwyddorau ffisegol (peirianneg, cyfrifiadureg) a’r gwyddorau cymdeithasol (gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith, troseddeg) at ei gilydd. Y tu hwnt i’w aelodau academaidd, mae’r prosiect hefyd yn cynnal tri ymchwilydd ôl-raddedig a dau intern sy’n derbyn tâl.

“Mae gweithgarwch ymchwil diweddar ein tîm wedi cynnwys cynnal arolwg ar farnau dros 500 o academyddion ar draws y byd ar seiberderfysgaeth, ac adeiladu cronfa ddata o ddiffiniadau gwleidyddol, cyfreithiol a diffiniadau eraill o seiberderfysgaeth i helpu archwilio gwahaniaethau allweddol yn y modd y mae pobl yn ymdrin â’r term hwn ar draws awdurdodau cyfreithiol neu ddiwylliannau gwleidyddol.”

Mae cynhadledd yr wythnos hon wedi’i threfnu o amgylch y tair thema Deall seiberderfysgaeth; Asesu bygythiad seiberderfysgaeth ac Ymateb i seiberderfysgaeth. Ar ôl y gweithdy, caiff y papurau eu casglu at ei gilydd a’u cyhoeddi mewn llyfr a olygir gan dîm prosiect seiberderfysgaeth Prifysgol Abertawe.

Am ragor o wybodaeth ar y prosiect seiberderfysgaeth ewch i www.cyberterrorism-project.org neu e-bostiwch ctworkshop@abertawe.ac.uk