Araith ar hawliau plant gan Rhodri Morgan

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Rhodri Morgan, Canghellor Prifysgol Abertawe a chyn Brif Weinidog Cymru yn traddodi araith mewn cynhadledd ryngwladol ar hawliau plant.

Bydd Cynghrair y Byd ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn cael ei chynnal am y pumed tro, a hynny yn San Juan, yr Ariannin rhwng Hydref 15fed a 18fed a thema’r gynhadledd fydd ‘‘Byd sy’n addas i blant.’’

Mi wnaeth Mr Morgan anerch y gynhadledd Arsyllfa Cymru ar Hawliau dynol Plant a Phobl Ifanc ym Mhrifysgol Abertawe yn gynharach eleni.

Meddai: ‘‘Y ddeddfwriaeth olaf y gwnes i ei chyflwyno fel Prif Weinidog oedd Mesur oedd yn rhoi cyfrifoldeb ar Weinidogion Cymru i roi sylw priodol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth weithredu eu swyddogaethau. Golyga hyn mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn y gyfraith.

‘‘Un o’m blaenoriaethau fel Prif Weinidog oedd sicrhau bod plant yn cael eu gwarchod. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i apwyntio Comisiynydd Plant ac mi wnaeth gwledydd eraill y Deyrnas Unedig ddilyn ein harweiniad. Rwy’n gobeithio y bydd y Mesur ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn arf ddefnyddiol i wledydd eraill i barhau â hawliau plant.’’

Yn ystod ei ymweliad â’r Ariannin, bydd Mr Morgan, ddaeth yn Ganghellor Prifysgol Abertawe yn 2011, yn arwyddo cytundeb fydd yn amlinellu bwriad Prifysgol Abertawe i gydweithio â Phrifysgol Genedlaethol Rosario yn y dyfodol. Bydd y cytundeb yn ceisio sefydlu cysylltiadau i annog a hwyluso’r gallu i gydweithio ym maes dysgu hawliau dynol i blant a phobl ifanc. Mae’r ddwy Brifysgol wedi sefydlu Arsyllfeydd ar hawliau plant a phobl ifanc.

Dywedodd Rhodri Morgan: ‘‘Byddwn yn cydweithio i ddatblygu ymchwil a chyfnewid a lledaenu gwybodaeth. Mae’r ddau sefydliad yn dymuno bod polisi cyhoeddus yn cyfrannu tuag at gael effaith ar hawliau dynol plant a phobl ifanc er budd cymdeithas.

‘‘Mae’r mater yma wedi bod o ddiddordeb i mi trwy gydol fy ngyrfa ac rwy’n falch o fedru parhau â’r gwaith fel rhan o’m rôl gyda Phrifysgol Abertawe.’’