Abertawe’n barod i ddod yn ganolbwynt technolegau meddygol a nanoiechyd byd-eang ar ôl derbyn dyfarniad newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae grwp ymchwil Canolfan NanoIechyd (CNH) a Rhyngweithiadau Dynol a Chyfrifiadurol Prifysgol Abertawe yn barod i ddod yn ganolbwynt nanoiechyd byd-eang gyda chymorth grant newydd o £500,000 gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC).

Daeth y ‘Canolbwynt Byd-eang mewn Technolegau Meddygol ac Nanoiechyd ym Mhrifysgol Abertawe’ yn weithredol ar 1 Ebrill, 2012. Bydd yn hwyluso cyfres o gyfnewidiadau staff dros gyfnod o 12 mis i adeiladu ar fentrau presennol a mentrau newydd gyda phartneriaid ymchwil rhyngwladol Abertawe. 

Meddai’r Athro Steve Wilks, Pennaeth y Coleg Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae llawer o waith rhyngwladol ar y cyd wedi deillio drwy weithgarwch CNH, yn enwedig gyda sefydliadau rhyngwladol blaenllaw mewn Technolegau Meddygol a NanoIechyd. Er enghraifft, mae gan Abertawe berthynas sefydlog â sefydliadau yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys Prifysgol A&M Texas. Prifysgol Pennsylvania, Prifysgol Rice a Sefydliad Ymchwil Ysbyty’r Methodistiaid yn Houston.

“Mae datblygiadau’r partneriaethau hyn wedi cynnwys technolegau pwynt gofal mewn canfod a dadansoddi ceulo gwaed annormal; effaith tocsicolegol nanogronnynau naturiol a nanogronynnau wedi’u peiriannu; a systemau smart i ddarparu cyffuriau.”

Mae’r grant EPSRC, a ddyfarnwyd yn benodol i ledaenu arbenigedd staff yn rhyngwladol, yn golygu y bydd ffactorau sydd yn aml yn amharu ar weithgarwch a chynnydd academaidd ac yn peri rhwystredigaeth yn cael eu diddymu. 

Drwy’r Canolbwynt, bydd gan ymchwilwyr Abertawe ryddid i fynd â’i gwybodaeth a’u syniadau creadigol ynghylch materion iechyd hanfodol i wledydd gan gynnwys China, Ffrainc a’r Unol Daleithiau.

Bydd y Canolbwynt Byd-eang yn rhyngwladoli meysydd o gryfder ym mhortffolio presennol Prifysgol Abertawe ar gyfer gweithgarwch a ariannir gan EPSRC mewn pedwar maes allweddol yn gyflym: datblygu technoleg, asesu diogelwch, therapiwteg, a pheirianneg ffactorau dynol.

“Bydd y cyfle hwn yn caniatáu i’n hymchwilwyr wella ansawdd bywyd unigolyn drwy ddarpariaeth gyffuriau a dargedir, drwy ei wneud yn bosib i gleifion reoli eu darpariaeth gyffuriau eu hunain o ddiogelwch eu cartrefi eu hunain, a thrwy leihau gwallau dynol drwy well ddyfeisiau rhyngwynebau defnyddwyr sy’n darparu cyffuriau,” meddai’r Athro Wilks.

“Mae’r Canolbwynt Byd-eang newydd yn hanfodol o safbwynt gwella ein cydweithrediadau presennol a datblygu mentrau newydd ar y cyd drwy allu symud staff i’r gwledydd hynny lle y mae partneriaethau allweddol gennym mewn nanoiechyd.   

“Bydd y dyfarniad yn ychwanegu gwerth at weithio ar draws disgyblaethau yn y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Bydd y dull eang hwn o weithio’n cynnig potensial pellach i’r agweddau cymdeithasol a diwylliannol ddylanwadu ar a llunio datblygiadau ym maes nanoiechyd.

“Mae ein portffolio Pontio’r Bylchau a ariannir gan EPSRC wedi ariannu dros 50 o brosiectau ymchwil rhyngddisgyblaethol ac arloesol megis cymwysiadau newydd i ymdrin â cheulo gwaed, ail-greu systemau cyfrifiadurol confensiynol i gefnogi gofal iechyd ac ymglymiad cyhoeddus â gwyddoniaeth.

“Yn benodol, bydd yr ariannu’n rhoi cyfle i staff yng nghyfnodau cynnar eu gyrfaoedd ymchwil ddod yn ymchwilwyr a chanddynt yrfaoedd rhyngwladol ac yn caniatáu i ymchwilwyr sefydlog flodeuo gyda’u hymrwymiadau rhyngwladol hwythau; yn fyr, mae’r prosiect yn ceisio sicrhau mai Canolfan Nanoiechyd Ewropeaidd Prifysgol Abertawe yw’r Canolbwynt Byd-eang ar gyfer Technolegau Meddygol a Nanoiechyd.”