Swansea University - News Archive


News & Events Archive for 2011

Items are listed in chronological order by publication date.



    Sgwrs gyda David Miliband

    Bydd y Gwir Anrhydeddus David Miliband yn ymweld â Phrifysgol Abertawe ar ddydd Mawrth 7 Chwefror am sesiwn holi ac ateb sy'n agored i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.


    Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol Prifysgol Abertawe sy'n trefnu'r sesiwn, a bydd Dr Jonathan Bradbury, Pennaeth yr Adran, yn ei chadeirio. 

    Mae'r digwyddiad yn rhan o Daith David Miliband o gwmpas Prifysgolion y DU, ac yn ystod y Daith, bydd y Cyn-ysgrifennydd Tramor yn ymweld â thros 20 o brifysgolion ar draws y wlad.

    Bydd sesiwn Abertawe'n canolbwyntio ar heriau byd-eang a domestig 2012, gan drafod materion megis yr argyfwng yn y Parth Ewro, swyddi a safonau byw, a dyfodol addysg uwch.

    Dywedodd Dr Jonathan Bradbury: "Mae David Miliband wedi cychwyn taith o gwmpas prifysgolion Prydain ar adeg allweddol, pan mae ansicrwydd mawr am nifer o faterion yn effeithio ar Gymru, y DU, Ewrop, a'r byd.  Mae ei ymweliad ag Abertawe yn gyfle prin i siarad ag un o fawrion gwleidyddiaeth Brydeinig, ac i drafod y ffordd ymlaen.“

    Cynhelir Sgwrs gyda David Miliband yn Theatr Taliesin, Prifysgol Abertawe ar ddydd Mawrth, 7 Chwefror, 12.30-2.00pm.  Mae'r tocynnau i gyd wedi'u gwerthu, ond bydd nifer cyfyngedig ar gael wrth y drws.

News

What's Happening

Research