ILS1
Professor Yuqin Wang

Yr Athro Yuqin Wang

Athro, Biomedical Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602730

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 305
Trydydd Llawr - Neuroscience
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Enillodd yr Athro Yuqin Wang ei BSc mewn Fferylliaeth o Brifysgol Peking yn Tsieina. Dechreuodd ei gyrfa ymchwil yn Sefydliad Karolinska yn Stockholm, lle enillodd PhD mewn Biocemeg Feddygol. Cafodd hyfforddiant clasurol fel biocemegydd proteinau/lipidau, gan feithrin dealltwriaeth dda o dechnegau puro a dadansoddi proteinau/lipidau, yn enwedig sbectrometreg màs. Yn dilyn hyfforddiant ôl-ddoethurol ym myd diwydiant ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain, derbyniodd hi swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn y DU yn 2007 ac fe'i dyrchafwyd yn Athro Cysylltiol yn 2013 ac yn Athro yn 2018.  

Mae'r Athro Wang yn aelod gweithgar o'r gymuned lipidomeg ryngwladol ac roedd hi'n un o brif drefnwyr nifer o gyfarfodydd, gan gynnwys y pumed cyfarfod lipidomeg Ewropeaidd, trydydd symposiwm y Rhwydwaith Ymchwil Oxysterol Ewropeaidd, a chwrs ymarferol Sefydliad Bioleg Foleciwlaidd Ewrop (EMBO) mewn “sbectrometreg màs lipidau a lipidomeg”. O 2016, mae'r Athro Wang wedi gwasanaethu fel aelod o bwyllgor y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol ac mae hi'n aelod o'r Bwrdd Golygyddol ar gyfer Sbectrometreg Màs. 

Meysydd Arbenigedd

  • Metaboledd colesterol mewn imiwnedd a'r ymennydd
  • Rhyngweithiadau rhwng sterolau a phroteinau
  • Sbectrometreg màs lipidau
  • Delweddu sbectrometreg màs

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ymchwil yr Athro Wang yn canolbwyntio ar fetaboledd colesterol a'i gysylltiad ag iechyd pobl a chlefydau. Mewn cydweithrediad â'r Athro William Griffiths, mae'r Athro Wang yn un o gyd-ddyfeiswyr patent yn yr Unol Daleithiau, sef “Kit and method for quantitative detection of steroids” (US9851368B2).