Yr Athro Yamni Nigam

Athro, Healthcare Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 518565

Cyfeiriad ebost

215
Ail lawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Athro mewn Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe yw Yamn ac mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Yma, mae'n dysgu anatomeg, ffisioleg a phathoffisioleg i ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys nyrsys a pharafeddygon. Graddiodd Yamni o Kings College, Llundain ac yna ymgymerodd â gradd Meistr mewn Parasitoleg Gymhwysol ac Entomoleg Feddygol yn Ysgol Meddygaeth Drofannol Lerpwl.

Yn dilyn cwblhau ei doethuriaeth yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Abertawe a swydd ôl-ddoethuriaeth yn Fundaco Oswaldo Cruz, Rio de Janeiro, Brasil, yn 2001, sefydlodd Yamni Grŵp Ymchwil Cynrhon Prifysgol Abertawe, gan ffocysu ar y cynrhon meddyginiaethol, Lucilia sericata, a’r moleciwlau sy'n ymwneud â therapi larfal. Mae ei thîm wedi cyhoeddi’n eang ar y canfyddiadau gwyddonol ar weithgarwch gwrthficrobaidd secretiadau larfal, ac ar briodweddau gwella clwyfau cynrhon ac wedi nodi ffactor gwrthficrobaidd newydd grymus, Seraticin®, o secretiadau cynrhon. Mae Yamni yn awdur dros 75 o erthyglau, penodau llyfrau a phapurau a adolygwyd gan gymheiriaid ac mae’n Gymrawd Etholedig o’r Gymdeithas Entomolegol Frenhinol a’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol.

Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn arwain prosiect sy'n ymchwilio i ddealltwriaeth a chanfyddiad y cyhoedd o'r defnydd clinigol o gynrhon ar glwyfau. O'r herwydd, mae hi wedi sefydlu ymgyrch "Caru cynrhon!" - mudiad ymgysylltu cyhoeddus mawr, sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth a newid canfyddiad pobl o therapi cynrhon, ar gyfer y cyhoedd, ymarferwyr clwyfau a phlant ysgol. Mae Yamni wedi ymddangos mewn nifer o adroddiadau a chyfweliadau cyfryngau, radio a theledu. Yn 2018, bu’n gweithredu fel ymgynghorydd cynrhon ar gyfer drama Feddygol y BBC, Casualty. Yn 2022, mae hi wedi gweithio gyda BBC Doctors i ymgorffori therapi cynrhon mewn pennod sydd i’w darlledu ym mis Gorffennaf 2023. Mae hi wedi cael ei chyfweld yn ddiweddar ar gyfer BBC Countryfile (09/03/2023) am ei gwaith i newid y canfyddiad negyddol o therapi cynrhon.

Dewiswyd Yamni i gymryd rhan yn Rhaglen eilitaidd Crwsibl Cymru, gan hyrwyddo datblygiad Arweinwyr Ymchwil y dyfodol yng Nghymru. Mae hi'n Hyrwyddwr Athena Swan ac yn Hyrwyddwr Cymunedol Diabetes. Mae hi’n Llysgennad STEM hyfforddedig, yn cyflwyno sesiynau rhyngweithiol ar ficrobioleg ac entomoleg i ddisgyblion mewn ysgolion lleol.

Meysydd Arbenigedd

  • Therapi Cynrhon
  • Iachau Clwyfau
  • Entomoleg
  • Microbioleg
  • Anatomeg a Ffisioleg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Therapi Cynrhon
Iachau Clwyfau
Entomoleg
Microbioleg
Anatomeg a Ffisioleg

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau